Gwneud Cais am Le
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2021/22
Yn unol â Chod Derbyn i Ysgolion statudol Llywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i'r cyngor gynnal ymgynghoriad blynyddol ar drefniadau derbyn yn y flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y byddai'r trefniadau yn berthnasol iddi.
Mae'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer mis Medi 2022 bellach yn fyw a rhaid i bob sylw ddod i law erbyn hanner dydd, 12 Chwefror 2021.
Gweld y ddogfen ymgynghori (pdf)
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2021
Yn unol â hynny, lansiwyd ymgynghoriad ar 8 Ionawr 2020 a ddaeth i ben ar 28 Chwefror 2020 mewn perthynas â'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer mis Medi 2021 ymlaen.
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben, lluniwyd adroddiad ymgynghori (pdf) a oedd yn disgrifio'r broses ymgynghori a'r adborth a gafwyd. Cafodd Asesiad o’r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (FEIA) (pdf) ei gynnal hefyd. Defnyddiwyd y ddwy ddogfen hyn i bennu'r trefniadau derbyn ar gyfer 2021. Mae’r Atodlen Penderfyniadau (pdf) a’r Polisi Derbyn i Ysgolion a Bennwyd ar gyfer 2021/22 (pdf) bellach ar gael. Er gwybodaeth, penderfynwyd ar y polisi yn unol â'r ymgynghoriad.
Cyn gwneud cais am le
Cwestiynau Cyffredin Derbyn i Ysgolion
Rhagor o wybodaeth
Ebost school.admissions@newport.gov.uk
TRA90874 17/09/2018