Gall plant ddechrau’r ysgol (Dosbarth derbyn) yn y mis Medi sy’n dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Rhaid gwneud cais am bob plentyn sydd am gael lle.
Gall rhieni ohirio derbyn eu plentyn i’r ysgol nes y tymor sy’n dilyn pen-blwydd y plentyn yn bump oed a bydd y lle'n cael ei gadw.
Ni ellir gohirio y tu hwnt i ddechrau'r tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bump oed, neu y tu hwnt i'r flwyddyn ysgol y gwnaed y cais ar ei chyfer.
Cyn penderfynu a ddylech ohirio, dylech gysylltu â'ch dewis ysgol/ysgolion i ofyn sut y mae'n darparu ar gyfer y plant ieuengaf yn y Dosbarth Derbyn a sut y caiff anghenion y plant hyn eu bodloni wrth iddynt symud drwy'r ysgol.
Cyn gwneud cais...
- Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yw'r oedran cywir i wneud cais
- Nodwch ddyddiadau agor a chau'r cais
- Ydych chi'n gwybod eich dalgylch?
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y meini prawf gordanysgrifio (isod) a ble bydd eich plentyn yn ffitio
Ceisiadau ar gyfer Medi 2021 dosbarth derbyn
Gall plant a aned rhwng 1 Medi 2016 a 31 Awst 2017 wneud cais am le yn y dosbarth derbyn yn 2021.
- Daeth y broses ymgeisio i ben ar 13 Ionawr 2021
- Caiff penderfyniadau eu cyhoeddi ar 16 Ebrill 2021
I wneud cais hwyr cwblhewch y ffurflen gais lle derbyn Medi 2021(pdf)
Lawrlwythwch spolisi derbyn i ysgolion 2021/2022 (pdf)
Cysylltwch ag ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ffydd) am eu ffurflen gais hwy.
Darllenwch am ddalgylchoedd Casnewydd.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â school.admissions@newport.gov.uk
Bydd y Cyngor yn agor ysgol gynradd Gymraeg newydd o fis Medi 2021, ar gyfer disgyblion oed Meithrin a Derbyn yn unig i ddechrau, yn adeilad hen Ysgol Fabanod Lodge Hill Caerllion, lle bydd yn aros am ddwy flynedd cyn symud yn barhaol i safle presennol Ysgol Gynradd Pilgwenlli.
Meini Prawf Gordanysgrifio ar gyfer Derbyn i Ysgolion Cynradd
Os yw nifer y ceisiadau am le mewn ysgol yn llai neu'n gyfartal â nifer y lleoedd sydd ar gael, bydd pob ymgeisydd yn cael ei dderbyn.
Fodd bynnag, os oes mwy o ddewisiadau nag sydd o leoedd ar gael, caiff y meini prawf gordanysgrifio canlynol eu dilyn i benderfynu pa blant a ddylai gael eu derbyn.
Os yw ysgol wedi’i henwi ar ddatganiad Anghenion Addysgol Arbennig/Cynllun Datblygu Unigol, mae gan y Cyngor ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol honno cyn i’r meini prawf gordanysgrifio gael eu defnyddio yn erbyn y ceisiadau a dderbyniwyd, bydd hyn yn lleihau nifer y lleoedd sydd ar gael i ymgeiswyr eraill.
Os yw cyfanswm y dewisiadau ar gyfer derbyn i ysgol yn fwy na nifer y lleoedd, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn cael ei defnyddio i ddyrannu'r lleoedd sydd ar gael:
1. Plant sy’n derbyn gofal (plant mewn gofal cyhoeddus) a phlant a oedd yn derbyn gofal yn y gorffennol
2. Disgyblion sy’n byw yn y dalgylch ac sy’n gwneud cais am resymau meddygol
3. Disgyblion sy’n byw yn y dalgylch ond sydd â brodyr neu chwiorydd perthnasol
4. Disgyblion sy’n byw yn y dalgylch
5. Disgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch ac sy’n gwneud cais am resymau meddygol
6. Disgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch ond sydd â brodyr neu chwiorydd perthnasol
7. Disgyblion sy’n byw y tu allan i’r dalgylch
Ar ol ystyried y categoriau uchod, neu os yw nifer y ceisiadau mewn unrhyw un o’r categoriau uchod yn fwy na’r nifer derbyn cyhoeddedig, caiff blaenoriaeth ei seilio ar y rheiny sy’n byw agosaf i’r dewis ysgol. (Gweler y Polisi Derbyn i Ysgolion am fanylion llawn)
Os byddwch yn mynegi mwy nag un dewis, bydd pob un o’r lleoliadau ysgol o’ch dewis yn cael ei ystyried yn gyfartal a chaiff lle ei gynnig yn yr ysgol a ffefrir fwyaf gennych os oes lle ar gael.
Cyswllt
E-bost: school.admissions@newport.gov.uk neu ffôn (01633) 656656