Rheoli Traffig

Arwyddion a marciau ffordd

Mae’n rhaid i arwyddion traffig a marciau ffordd gydymffurfio â rheoliadau a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. 

Ni chaniateir yr arwyddion canlynol ar ffyrdd, er enghraifft:

  • Arafwch
  • Plant yn chwarae
  • Dim gemau â phêl
  • man troi – dim parcio
  • Mynediad neu fynedfa gudd

Rhoi gwybod am broblem gydag arwyddion neu farciau ffordd

Drychau Gwelededd

Nid yw Cyngor Dinas Casnewydd yn gosod drychau gwelededd ar y briffordd am nifer o resymau'n ymwneud a diogelwch ar y ffyrdd. 

Gorchmynion Rheoli Traffig  

Mae Gorchymyn Rheoli Traffig yn ofynnol ar gyfer mesurau sy’n cyfyngu traffig neu drefniadau parcio mewn unrhyw ffordd, un ai oherwydd diogelwch, i wella gwelededd, i osgoi difrod neu er mwyn cynnal yr amgylchedd lleol, e.e. llinellau melyn dwbl. 

Gall y gorchmynion fod yn orchmynion dros dro, parhaol neu arbrofol. 

Hyd yn oed pan ystyrir bod gorchymyn yn gyfiawn, caiff y cynnig ei hysbysebu a'i ymgynghori arno, ac felly nid yw’r canlyniad yn sicr. 

View traffic regulation order notices

Darllenwch am gynllunio digwyddiad pan fo rhaid cyfyngu neu gau ffyrdd lleol.

Fel yr awdurdod gorfodi, dylid rhoi gwybod am unrhyw droseddau ar gyflawnir ar y briffordd i Heddlu Gwent.    

Cais am Orchymyn Rheoli Traffic

Terfyn Pwysau 

Gosodir terfyn pwysau adeileddol os ydym yn credu bod perygl o achosi difrod i’r briffordd os, yn dilyn asesiad adeileddol, y caiff ei defnyddio gan gerbyd sydd dros bwysau penodol. 

Gellir ystyried terfyn pwysau amgylcheddol os ystyrir bod presenoldeb Cerbydau Nwyddau Trwm yn beryglus neu pan fo sawl Cerbyd Nwyddau Trwm yn defnyddio darn o ffordd benodol pan fo llwybrau mwy addas ac ymarferol ar gael. 

Ni ellir defnyddio terfyn pwysau amgylcheddol i wrthod mynediad i gerbydau os nad oes llwybr rhesymol arall ar gael i eiddo.  

Mae’n rhaid cyflwyno Gorchymyn (gweler uchod) i gyflwyno terfyn pwysau.   

Terfyn Cyflymder 

Caiff terfyn cyflymder ei gytuno yn dilyn asesiad yn erbyn safonau a meini prawf a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y bydd y terfyn cyflymder dan sylw yn cael effaith gadarnhaol ar gyflymder traffig.

Mae’n rhaid cynnal nifer o arolygon a llunio Gorchymyn (gweler uchod).

Mewn ardal adeiledig gyda goleuadau stryd, 30 mya yw’r terfyn cyflymder oni bai bod arwyddion ffyrdd yn nodi'n wahanol.    

Parcio

Nid oes gan unrhyw un yr hawl i barcio ar y ffordd yn uniongyrchol y tu allan i’w cartref.

Wrth i fwy ohonom fod yn berchen ar geir, yn aml mae mwy o alw am leoedd parcio ar y stryd na nifer y lleoedd sydd ar gael. 

Marciau diogelu mynediad

Marciau cynghorol yw’r rhain sy’n tynnu sylw at ddreifiau ar ffyrdd lle mae llawer o bobl yn parcio ar y stryd a phan fo mynediad yn cael ei rwystro’n aml. 

Ni ellir eu defnyddio i neilltuo man parcio ar ymyl y ffordd.  

Codir ffi o £286 am osod marc diogelu mynediad, y mae’n rhaid ei dalu ymlaen llaw.   

Gwneud cais am farcion diogelu mynediad

 Dylech wneud cais dim ond os ydych wedi ymrwymo i’r gwaith ac yn gallu talu’r ffi.  

Mannau troi

Nid ydym yn gosod llinellau melyn mewn cylchoedd troi oni bai bod amgylchiadau eithriadol neu fel rhan o gynllun rheoli parcio ehangach.  

Os yw cerbyd wedi’i barcio mewn ffordd sy’n peri rhwystr i ddefnyddwyr y ffordd dylech gysylltu â Heddlu Gwent. 

Ardaloedd parcio i ddeiliaid trwydded preswylwyr

Cysylltu 

Anfonwch e-bost i [email protected]