Cronfa Ffyniant Gyffredin

The words 'Ffyniant Bro' in navy text on a white background

A crest logo with the words UK Government Wales/Llywodraeth y DU Cymru written next to it

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU 

Trosolwg

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Lansiodd yn Ebrill 22022 ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddi lleol erbyn Mawrth 2025. Mae'r Gronfa yn cefnogi uchelgeisiau'r Papur Gwyn Ffyniant Bro, a'i nod yw: 

  • Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat. 
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.  
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, a 
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny sydd heb asiantaeth leol. 

Er mwyn cyflawni hyn, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth buddsoddi, sef:

  • Cymunedau a Lle  
  • Cefnogi Busnesau Lleol; a
  • Pobl a Sgiliau 

Mae cronfa ar wahân o'r enw Lluosi yn canolbwyntio ar wella sgiliau rhifedd oedolion.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth y DU.

Dyrannwyd cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ledled y DU ar sail asesiad o anghenion a derbyniodd y 10 Awdurdod Lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ddyraniad cyfunol o dros £230m, a £48m pellach ar gyfer Lluosi. Er mwyn tynnu ar y cyllid hwn, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol yn y rhanbarth ddatblygu un cynllun buddsoddi rhanbarthol cydweithredol.

Lawrlwytho crynodeb o'r cynllun buddsoddi rhanbarthol y CFfG (pdf).

Ffyniant Gyffredin yng Nghasnewydd

Dyrannwyd ychydig dros £27m i Gasnewydd a £5.6m arall ar gyfer Lluosi ar draws refeniw a chyfalaf, ar gyfer y cyfnod Ebrill 2022 tan ddiwedd Mawrth 2025. Mae Cynllun Buddsoddi Lleol yn manylu ar ddosbarthu'r cronfeydd hyn yng Nghasnewydd. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cytunwyd arno gan Gabinet Cyngor Dinas Casnewydd ym mis Mai 2023.  Mae modd gweld adroddiad y Cabinet a'r Cynllun Buddsoddi Lleol 22-25 ar ein gwefan

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, e-bostiwch y tîm yn [email protected].