Amgylchedd a newid hinsawdd
Newid hinsawdd yw un o heriau byd-eang diffiniol ein cenhedlaeth.
Rydym yn gweithio i leihau ein hallyriadau carbon, a gwneud Casnewydd yn lle glanach a gwyrddach i fyw a gweithio ynddo.
Argyfwng hinsawdd ac ecolegol
Pasiodd y cyngor gynnig ym mis Tachwedd 2021 yn datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol.
Mae'r cynnig yn darllen fel a ganlyn.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd am:
Ddatgan argyfwng ecolegol a hinsawdd.
· Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau â'r gwaith da yr ydym wedi'i ddechrau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon i garbon sero-net erbyn 2030.
· Adolygu'r gwasanaethau a ddarparwn i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas i fod yn un garbon sero-net ac i addasu i’r newid yn yr hinsawdd erbyn 2050.
· Datblygu cynllun Newid yn yr Hinsawdd Sefydliadol clir, mewn ymgynghoriad â dinasyddion, dros y pum mlynedd nesaf a fydd yn nodi'r camau y byddwn angen eu cymryd i gyflawni hyn.
· Datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ledled y ddinas, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i ddatblygu atebion arloesol i ddatgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth leol a gwireddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol.
· Gweithio gyda phartneriaid Casnewydd yn Un a'r cyhoedd i ddatblygu strategaeth hinsawdd ledled y ddinas i alluogi di-garbon net ledled y ddinas ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd erbyn 2050 ac integreiddio arfer ecolegol gorau ym mhob maes o weithgarwch y cyngor, gan ganiatáu i ni arwain y ddinas drwy esiampl.
· Rhoi cyhoeddusrwydd i'r datganiad hwn o argyfwng hinsawdd ac ecolegol i drigolion a busnesau yng Nghasnewydd a chefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu gan bartneriaid drwy bartneriaethau a chymorth a galluogi dinasyddion i leihau eu hallyriadau carbon eu hunain.