Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn ac yn gweithredu arfer gorau fel y cynghorir gan y llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn gyffredinol, caiff gwasanaethau hanfodol y Cyngor eu blaenoriaethu a bydd gwybodaeth reolaidd am unrhyw newid i wasanaethau yn ymddangos yma.
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llyw.Cymru, Gov.UK a GIG.
Mae ein canolfan gyswllt ar agor ar gyfer galwadau o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm, mae'r Orsaf Wybodaeth ar gau hyd nes y rhoddir gwybod yn wahanol.
Defnyddiwch ein ffurflenni ar-lein i adrodd neu ofyn am wasanaethau'r Cyngor.
Gwnewch ymholiad cyffredinol am COVID-19 ar-lein neu e-bostiwch info@newport.gov.uk
Diweddariad 17 Chwefror - Ehangu cymhwysedd y Taliad Cymorth Hunanynysu
Bydd mwy o bobl nawr yn gymwys i wneud cais am y Taliad Cymorth Hunanynysu gwerth £500. Bydd y cynllun, sydd wedi'i ymestyn tan fis Mehefin 2021, bellach yn agored i geisiadau gan bobl ag incwm personol o lai na £500 yr wythnos a'r rhai ar Dâl Salwch Statudol Sylfaenol y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (POD), Ap Covid-19 y GIG neu gan leoliad addysg eu plentyn. Dysgwch fwy a gwnewch gais yma.
Diweddariad 5 Chewfror - Trefniadau dychwelyd i'r ysgol
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar 5 Chwefror y byddai ysgolion yn dechrau gweld dysgwyr y cyfnod sylfaen yn dychwelyd fesul cam o 22 Chwefror ymlaen.
Darllenwch Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddychwelyd i ysgolion a cholegau.
Diweddariad 30 Ionawr - Mae Cymru yn destun rhybudd lefel 4
Gwnaed dau newid bach i'r cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar presennol:
- Gall uchafswm o ddau berson o wahanol aelwydydd ymarfer corff yn yr awyr agored gyda'i gilydd, cyn belled â'u bod yn cadw pellter cymdeithasol. Rhaid i hyn olygu ymarfer corff yn dechrau o gartref ac yn gorffen ohono – ni ddylai gyrru i ymarfer corff i fannau prydferth ddigwydd o hyd.
- Os yw trefniant swigen gymorth wedi torri i lawr, gellir ffurfio un newydd cyn belled â bod bwlch o 10 diwrnod cyn gwneud hynny.
Mae manylion llawn y cyfyngiadau ar lefel rhybudd 4 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd y cyfyngiadau yn parhau ar waith nes y bydd nifer yr achosion yn gostwng.
Ar lefel rhybudd 4 rhaid i chi:
- Ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw neu nad ydynt yn eich swigen gefnogaeth.
- Gwisgo gorchudd wyneb (os gallwch) ym mhob man cyhoeddus dan do.
- Aros gartref.
- Peidio â chreu aelwyd estynedig (gall oedolion sengl neu rieni sengl ymuno ag un aelwyd arall i ffurfio swigen gefnogaeth unigryw).
- Cwrdd dan do ddim ond â'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw neu sydd yn eich swigen gefnogaeth.
- Cwrdd mewn gerddi preifat ddim ond â'ch aelwyd neu swigen gefnogaeth.
- Cwrdd yn yr awyr agored ddim ond â'ch aelwyd neu swigen gefnogaeth.
- Gweithio o gartref os gallwch.
- Peidio â theithio heb esgus rhesymol.
- Peidio â theithio'n rhyngwladol heb esgus rhesymol.
Gallwch hefyd ddarllen Cwestiynau Cyffredin Lefel 4
Newidiadau i wasanaethau'r cyngor ar Lefel 4
- Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn parhau yn ôl y bwriad dros. Bydd y ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref hefyd yn parhau ar agor yn ôl y bwriad.
- Bydd parciau a mynwentydd yn aros ar agor
- Bydd Llyfrgelloedd yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu yn unig
- Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ar gau
- Mae addoldai, Swyddfa Gofrestru Casnewydd a'r Plasty yn parhau i fod ar agor ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaeth sifil. Ni chaniateir cynnal derbynfeydd
- Mae’r gwaith o gofrestru genedigaethau wedi'i ohirio ar hyn o bryd
Hawlio budd-daliadau
Mae COVID-19 wedi newid ein bywydau mewn sawl ffordd, sy’n golygu bod unrhyw gymorth bach ychwanegol yn bwysicach nag erioed.
Mae llawer o bobl heb ddeall y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt. Darganfod mwy.
Canolfannau profi
Gallwch ddod o hyd i ganolfannau profi Casnewydd a threfnu prawf yma
Hunanynysu a chwarantîn
O ddydd Iau 10 Rhagfyr, bydd y cyfnod hunanynysu oherwydd y coronafeirws yng Nghymru yn cael ei ostwng o 14 diwrnod i 10 diwrnod.
Taliad hunanynysu
Gallech gael taliad o £500 i helpu gyda cholli enillion os dywedwyd wrthych chi neu blentyn rydych chi’n gofalu amdano i ynysu drwy gynllun Profi ac Olrhain y GIG ar neu ar ôl 23 Hydref 2020 ac ni allwch weithio gartref, darllenwch a gwneud cais am y taliad hunanynysu COVID-19 yma.
Brechlyn Covid-19
Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi cychwyn yng Nghymru. Bydd brechlyn diogel ac effeithiol yn cynnig diogelwch unigol rhag COVID-19, yn ogystal â rhagor o ddiogelwch i’n hanwyliaid a’n cymunedau.
Dysgwch fwy
Adferiad Strategol Casnewydd
Mae ein nodau adfer strategol yn nodi sut y byddwn yn parhau i adeiladu Casnewydd well drwy ddiogelu bywydau, cefnogi ein cymunedau a'r rhai sy'n agored i niwed, lleihau anghydraddoldeb, ac ailadeiladu ein heconomi.
Cyfarfodydd cyhoeddus
Gweld calendr cyfarfodydd y Cyngor
Yn unol â mesurau iechyd y cyhoedd i liniaru lledaeniad Covid-19 ac i alluogi'r Cyngor i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r rhai sy'n agored i niwed, cafodd pob cyfarfod cyhoeddus ei atal ym mis Mawrth ac unrhyw gyfarfodydd nad oeddent yn hanfodol eu canslo.
Bydd penderfyniadau brys yn parhau i gael eu gwneud yn unol â chynlluniau dirprwyo'r swyddog a'r Aelodau a nodir yng Nghyfansoddiad a gweithdrefnau gwneud penderfyniadau brys y Cyngor.
Mae deddfwriaeth pwerau brys gan San Steffan a Llywodraeth Cymru yn atal dyletswyddau statudol ac amserlenni penodol yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng. Roedd hyn yn dileu'r angen i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai ac yn caniatáu parhad penodiadau presennol.
Gwybodaeth arall
Datganiad gan Fforwm Gwydnwch Lleol Gwent
Datganiad ar y cyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan (19/03/20)
TRA130490 23/12/2020