Prydau ysgol
Nod Cyngor Dinas Casnewydd a chontractwyr arlwyo ysgolion Chartwells yw sicrhau y gall pob disgybl yng Nghasnewydd gael prif bryd maethlon, ffres a fforddiadwy yng nghanol dydd bob dydd.
Caiff cegin ysgolion eu harolygu yn rhan o system sgorio hylendid bwyd genedlaethol – dilynwch y ddolen a rhowch enw’r ysgol neu ei chod post.
Llaeth am ddim i blant ysgolion cynradd
Caiff disgyblion ysgolion cynradd draean o beint o laeth pob dydd.
Darparir llaeth i ddisgyblion ysgolion preswyl arbennig ac i ddysgyblion eraill sydd angen llaeth am rhesymau meddygol.
Talu am brydiau ysgol
Mae Parentpay yn ffordd diogel o dalu ar-lein sydd ar gael i holl ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig Casnewydd, oni bai am ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru Malpas, Millbrook ac Ysgol Gynradd Monnow.
Mae Parentpay ag gael i holl ysgolion uwchradd Casnewydd oni bai am Ysgol Uwchradd St Joseph
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth defnyddiwch y ffurflen gysylltu ar-lein neu ffoniwch (01633) 656656.
Dylai unrhyw gwynion am y gwasanaeth prydau ysgolion gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio’r ffurflen gwyno (PDF) a’i dychwelyd at:
Rheolwr Contract (Prydau Ysgol), Gwasanaeth Addysg, Cyngor Dinas Casnewydd, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd, NP20 4UR