Cyngor a chymorth

Newport VVP - aerial April 2017

Mae tîm gwasanaethau busnes Cyngor Dinas Casnewydd yn helpu busnesau newydd, busnesau sydd eisoes wedi sefydlu yng Nghasnewydd a busnesau sy'n ystyried adleoli i'r ddinas.

Daw benthyciadau llog isel a grantiau cychwyn gyda chyngor lleol arbenigol.

Bydd cyngorwyr medrus yn eich helpu i ddod o hyd i safle addas, yn eich tywys drwy reoliadau'r cyngor, yn rhoi cymorth â chael gafael ar gymorth ariannol, ac yn eich helpu i gael cyngor arbenigol gan asiantaethau partner. 

Cysylltwch â Chyngor Dinas Casnewydd i drafod eich anghenion busnes

Dechrau busnes yng Nghasnewydd

Ardal Gwella Busnes Casnewydd

Iechyd a diogelwch ar gyfer busnesau

Rheoliadau diogelwch bwyd

Parhad Busnes

Academi Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r Academi Dysgu Seiliedig ar Waith yn fudiad datblygu sgiliau a lansiwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd fel y gall y sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector, fynd i'r afael â phroblemau cyflogaeth, anghenion hyfforddi a datblygiad busnesau.

Mae'r Academi yn cydlynu ac yn cysylltu sefydliadau hyfforddiant a chyflogaeth i helpu pobl ddi-waith Casnewydd i ennill y sgiliau y mae arnynt eu hangen i weithio ac i helpu busnesau i ateb eu hanghenion recriwtio.

Lawrlwythwch lyfryn yr Academi Dysgu Seiliedig ar Waith (pdf) i ddysgu rhagor am y ffordd y gallai eich busnes elwa. 

Anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch (01633) 414838

Sefydliadau partner

Trwy Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor ariannol a chyngor ar gyflogaeth, cydraddoldeb a rheolaeth amgylcheddol.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cynnig cyngor ar Ddechrau eich busnes eich hun; Dod yn Gyflogwr; Allforio Nwyddau (UKTI) a Masnachu â Gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd (UKTI). 

Mae'r Centre for Business yn cynnig cyngor, hyfforddiant a safleoedd i helpu busnesau newydd a busnesau sydd eisoes wedi'u sefydlu yn ne Cymru.

Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig arbenigedd, hyfforddiant, gwasanaeth ymgynghorol a sgiliau graddedigion.

Mae Siambr Fasnach De Cymru yn sefydliad i aelodau sy'n cynnig cymorth i fusnesau, ac mae ei hansawdd yn cael ei achredu gan Siambrau Masnach Prydain.

Mae Groundwork yng Nghymru - Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd yn cynnnig system rheoli amgylcheddol sy'n berthnasol i anghenion busnesau a sefydliadau.