Ymddygiad gwrthgymdeithasol

NODYN - O ddydd Mawrth 30 Mai 2023. Bydd y Gwasanaeth Wardeniaid Diogelwch Cymunedol (CSWS) yn gweithredu rhwng: 

  • Dydd Mawrth i ddydd Gwener 1pm - 10pm
  • Dydd Sadwrn 1:30pm a 10pm

Ni fydd y Gwasanaeth Warden Diogelwch Cymunedol yn darparu unrhyw wasanaeth ar ddydd Sul neu ddydd Llun.

Defnyddiwch ein ap sŵn i riportio cwynion am sŵn

Rhowch wybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans sŵn 

E-bost: [email protected]

Neu ffoniwch:

  • Cysylltwch â Chanolfan Gyswllt y ddinas ar (01633) 656 656 rhwng 8am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a hyd at 4:30pm ddydd Gwener i siarad ag aelod o’r Gwasanaeth Wardeniaid Diogelwch Cymunedol (CSWS) neu’r Tîm Sŵn a Chymdogaeth’.

  • Bydd y gwasanaeth hwn yn parhau i weithredu tan 10pm dydd Mawrth - dydd Gwener a rhwng 1:30pm - 10pm dydd Sadwrn, ffoniwch yr Ystafell Weithrediadau ‘Y Tu Allan i Oriau’ ar (01633) 656 667 a gofynnwch am y Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol.

  • Os ydych chi eisoes mewn cysylltiad ag iechyd yr amgylchedd a gofynnwyd i chi ffonio pan fydd y sŵn yn digwydd, cysylltwch â'ch swyddog achos ar ei linell uniongyrchol

I gysylltu â Heddlu Gwent, ffoniwch 101 neu ffoniwch 999 mewn argyfwng.

Wardeniaid diogelwch cymunedol

Mae wardeniaid diogelwch cymunedol Casnewydd wedi'u hachredu gan Heddlu Gwent ac mae ganddynt bwerau o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Gall wardeniaid ddelio ag adroddiadau am niwsans sŵn, sbwriel, baw cŵn, graffiti, tipio anghyfreithlon ac ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a gallant gymryd alcohol a sigaréts oddi ar bobl os bydd angen.

Mae wardeniaid yn gweithio'n agos gyda thîm iechyd yr amgylchedd y cyngor i ddelio â niwsans sŵn.

Darllenwch am sut rydym ni'n delio â chwynion am sŵn

Cymorth i ddioddefwyr

Bydd y swyddog cymorth dioddefwyr yn asesu anghenion y dioddefwr ac yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol, gan weithio gyda wardeniaid diogelwch cymunedol a'r heddlu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth.

Cysylltwch â Chymorth i Ddioddefwyr Cymru neu ffoniwch 0845 612 1900 i gael rhagor o gymorth. 

Darllenwch am Orchmynion Amddiffyn Mannau Cyhoeddus

Darllenwch am sbardun cymunedol Casnewydd

Cysylltu

Cysylltwch â'r swyddog diogelwch cymunedol yng Nghyngor Dinas Casnewydd