Dalgylchoedd
Mae pob ysgol yng Nghasnewydd yn gwasanaethu dalgylch a bydd pob cyfeiriad yng Nghasnewydd o fewn dalgylch ysgol cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg.
Gallwch wneud cais am dderbyn eich plentyn mewn unrhyw ysgol, ond rhoddir blaenoriaeth i blant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol gynradd neu uwchradd cyn plant sy’n byw y tu hwnt i’r dalgylch, er nad yw hynny’n sicrhau lle yn yr ysgol.
Os ydych yn penderfynu peidio â gwneud cais i’ch ysgol ddalgylch o gwbl, gallai hyn ei gwneud yn fwy tebygol na fydd eich plentyn yn cael lle mewn ysgol y byddwch yn fodlon arni.
Nid eich ysgol ddalgylch fydd eich ysgol agosaf o reidrwydd.
Bydd y dalgylchoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn newid o fis Medi 2021. Cadarnhewch eich ysgol ddalgylch cyn gwneud eich cais.
Sicrhewch eich bod yn cadarnhau eich dalgylch cyn gwneud cais am ysgol oherwydd efallai na fyddwch yn gymwys i gael cymorth â chludiant o’r cartref i’r ysgol.
Ysgol Gynradd
Ysgol Uwchradd
Mae dalgylch ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ymestyn dros y ddinas gyfan, yn ogystal â dalgylch Ysgol y Ffin yn Sir Fynwy.
Mae’r tabl isod yn dangos ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y dalgylch ar gyfer y blynyddoedd nesaf tan 2019/2020:
Blwyddyn academaidd
|
Dalgylch ysgolion uwchradd
cyfrwng Cymraeg
|
Ysgol Gyfun
Gwent Is Coed,
Casnewydd
|
Ysgol Gyfun
Gwynllyw,
Pont-y-pŵl
|
2016/17
|
Blwyddyn 7
|
Blwyddyn 8 a hŷn
|
2017/18
|
Blynyddoedd 7 ac 8
|
Blwyddyn 9 a hŷn
|
2018/19
|
Blynyddoedd 7 i 9
|
Blwyddyn 10 a hŷn
|
2019/18
|
Blynyddoedd 7 i 10
|
Blwyddyn 11
|
2019/20
|
Pob grŵp blwyddyn
|
Dim
|
Cysylltu
E-bost school.admissions@newport.gov.uk