Coroniad y Brenin

Coronation 2023 Red-Blue [Small] Welsh

Bydd pobl ledled y wlad a'r Gymanwlad yn dathlu Coroni Ei Fawrhydi Y Brenin a'i Mawrhydi Y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig.

Bydd Cinio Mawr y Coroni, partïon stryd a diwrnod wedi’i ymroi i achosion da yn dod â chymunedau at ei gilydd.

Cynhelir y Coroni ddydd Sadwrn 6 Mai yn Abaty Westminster a ddydd Sul 7 Mai cynhelir Cyngerdd Coroni yng Nghastell Windsor.

Bydd penwythnos y dathliadau yn dod i ben gyda'r Big Help Out nos Lun 8 Mai - gŵyl y banc arbennig wedi’i chyhoeddi gan y Prif Weinidog i nodi’r Coroni.

Cinio Mawr y Coroni – Parc Beechwood

Dydd Sul 7 Mai, 2023

Bydd marchnad artisan yn y maes parcio rhwng 12-4.

Bydd caffi Beechwood ar agor ar gyfer lluniaeth poeth ac oer o 9-5.

Dewch â phicnic i ddathlu â’r teulu cyfan. Ymhlith yr uchafbwyntiau bydd:

  • Cerddoriaeth fyw gan Newport City Radio a Grŵp Parc Beechwood. Mae'r llinell yn cynnwys:

Tŷ Beechwood

    • 12:00 - Radio Dinas Casnewydd - Croeso

    • 12:10 - The Hot Dogs 
    • 13:30 - Sounds of Revelry

    • 14:50 - Ampersand

Llwyfan adloniant

    • 12:10 - Radio Dinas Casnewydd - Croeso

    • 12: 10 - Aled Hughes 
    • 12:55 - Right Keys Only

    • 13:40 - Ian Lynn Palmer

    • 14:25 - KD Smith 

    • 15:10 - Delicious Dee

  • Bydd gweithgareddau chwaraeon ar y cae uchaf a MUGA  gweithgareddau chwaraeon gyda Casnewydd Fyw fel pêl-droed, pêl-fasged, tenis a gweithgareddau i blant rhwng 12-4.

  • Adloniant crwydr gan gynnwys y Nutkins, Majorettes, Bees a Sunday Besties

  • Bydd gweithdai celf a chrefft i blant ar gael gan Grŵp Cymunedol Beechwood Park (o flaen y caffi) rhwng 12-4.

Cystadleuaeth celf a barddoniaeth y coroni

I ddathlu coroni’r Brenin Siarl III, byddem wrth ein boddau i bobl ifanc yng Nghasnewydd gynhyrchu gwaith celf neu gerdd ar thema’r Coroni.

Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Gwener 12 Mai 2023 a gallech ennill gwobr wych. Bydd gwobrau unigol gan gynnwys cael eich cerdd wedi’i darllen gan awdur enwog neu enwogion lleol, ac mae cyfle i ennill iPads i geisiadau ysgol buddugol!

Darganfod mwy

Partïon Stryd

I gefnogi’r Cinio Mawr ddydd Sul, 7 Mai, bydd Cyngor Dinas Casnewydd unwaith eto yn hwyluso partïon stryd lleol fel y gwnaethom ni ar gyfer y Jiwbilî.

Mae ceisiadau bellach wedi cau. Mae rhestr o'r amseroedd cau a gymeradwywyd ar gael isod.

Rhestr o ffyrdd sydd ar gau.