Amgryptio Negeseuon Microsoft Office
Mae Amgryptio Negeseuon Microsoft Office yn ateb diogel i rannu negeseuon e-bost a ffeiliau sy'n caniatáu i Gyngor Dinas Casnewydd anfon negeseuon e-bost a dogfennau personol neu gyfrinachol mewn modd diogel.
Diogelir negeseuon a anfonir drwy ANMO gan safonau amgryptio uwch.
A oes cost?
Na, mae'n rhad ac am ddim derbyn negeseuon e-bost wedi'u hamgryptio gan Gyngor Dinas Casnewydd. Gallwch hefyd ymateb yn ddiogel i'r negeseuon e-bost hynny.
Sut ydw i'n agor e-bost wedi'i amgryptio?
Os anfonwyd e-bost diogel atoch, byddwch yn derbyn neges, yn debyg i'r un a ddangosir yn y ddelwedd ar y dudalen hon, sy’n nodi mae information.managmement@newport.gov.uk wedi anfon neges warchodedig atoch.
I gael mynediad i'r neges ddiogel, efallai y gofynnir i chi roi COD UN AMSER a fydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost. Ar ôl cofnodi'r cod, byddwch yn gallu darllen y neges a bydd unrhyw atebion a anfonwch yn cael eu hamgryptio'n awtomatig.
Os bydd angen i ni anfon unrhyw ddogfennau atoch, byddwn yn anfon dolen ddiogel atoch i gael mynediad i'r rhain. Unwaith eto, bydd angen i chi roi COD UN AMSER a fydd yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.
Sylwch y bydd negeseuon e-bost gan Gyngor Dinas Casnewydd bob amser yn dod i ben gyda newport.gov.uk
Agor e-bost wedi'i amgryptio a anfonwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd heb atodiadau (pdf)
Sut i agor ffeil a rennir yn ddiogel (PDF)