Newyddion

Rhybudd am sgam

Wedi ei bostio ar Friday 2nd December 2016

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn rhybuddio trigolion i fod yn ymwybodol o gyfathrebiadau a allai fod yn gamarweiniol ar y ffôn ac ar e-bost yn ymwneud â Threth Gyngor.

 Mae nifer o drigolion wedi derbyn galwadau ffôn ac e-byst yn ddiweddar sy'n ymddangos eu bod gan y Cyngor. Nid yw hyn yn wir. 

Mae gan y galwyr straeon amrywiol gan gynnwys casglu treth gyngor a gofyn am rannau pobl mewn damwain.

Mewn un achos, honnodd e-bost a oedd yn cynnwys logo’r Cyngor, ei fod gan y Ganolfan Hawliadau. Maent yn gofyn i drigolion dalu £69.99 am gostau gweinyddu’r ganolfan i fwrw ymlaen â hawliad am ad-daliad am gostau cymunedol trigolion dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid oes ad-daliadau i'w cael.

Nid gan y Cyngor y mae’r cyfathrebiadau hyn ac ni fyddwn byth yn gofyn am fanylion banc dros y ffôn am ad-daliadau treth gyngor.

Dylai trigolion anwybyddu cyfathrebiadau o’r fath.

Os nad ydych yn siŵr am gyfathrebiadau rydych yn eu derbyn gan y Cyngor ffoniwch 01633 656656.

Am gyngor ar sut i aros yn ddiogel ar-lein a sut i osgoi sgamiau ewch i:

https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/scams/scams/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.