Cymorth swyddi a gyrfa i bobl ledled Casnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 8th September 2023
Bydd ffair gyrfaoedd a swyddi rhad ac am ddim yn cael ei chynnal ddydd Mercher 20 Medi, yn darparu cymorth cyflogadwyedd hanfodol i’r rhai sy’n gadael ysgol a choleg, ceiswyr gwaith a’r rhai sy’n newid gyrfa.
Bydd Ffair Gyrfaoedd Eich Dyfodol yn cael ei chynnal yn ardal i fyny’r grisiau Marchnad Casnewydd rhwng 12pm a 3pm.
Mae wedi ei drefnu gan Cymru’n Gweithio (a ddarperir gan Gyrfa Cymru), tîm Cymunedau am Waith a Mwy Cyngor Dinas Casnewydd, a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae’n rhad ac am ddim i'w mynychu a gall unrhyw un 16 oed ac yn hŷn ddod draw ar y diwrnod i gael cyfarwyddyd gyrfaoedd gan gynghorwyr gyrfa arbenigol.
Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at yr ystod eang o opsiynau sydd ar gael gan gynnwys gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth yn ogystal â chymorth ymarferol i baratoi ar gyfer gwaith.
Bydd cyfle hefyd i gwrdd â darparwyr hyfforddiant lleol ac i ymgysylltu â chyflogwyr a sgwrsio am swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd.
*Yn ogystal â'r trefnwyr, mae’r rhai sy’n mynychu yn cynnwys:
- People Plus
- ITEC
- Aspirations Training
- Cymdeithas Ieuenctid Casnewydd
- Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
- Accent on education
- Newport and District Group Training Association
- Motivational Preparation College for Training (MPCT)
- Ambiwlans Cymru
- Heddlu Gwent
- Y Gwarchodlu Cymreig
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Trafnidiaeth Cymru
- Blue Cross
- Tesco
- Lidl
- Willmott Dixon
- Lovells
- Y Celtic Manor
- Premier Inn
- Acorn
- Gwasanaethau Sifil CB Casnewydd/Caerdydd
- Gofalwn Cymru
- AbiCare
- Corps Security
- 1st Impressions
Bydd Cymru’n Gweithio a Chymunedau am Waith a Mwy yn gallu cefnogi mynychwyr yn ystod y digwyddiad a byddant hefyd yn cynnig yr opsiwn i archebu sesiwn un-i-un ddilynol i’w helpu ymhellach. Gallai cymorth parhaus gynnwys archwilio opsiynau ymhellach, help i chwilio am swydd, hyfforddiant neu gyfleoedd prentisiaeth, dod o hyd i gyllid i uwchsgilio, cymorth gyda CVs a cheisiadau neu help gyda sgiliau cyfweliad.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion sy’n chwilio am waith neu hyfforddiant i alw draw a sgwrsio â chyflogwyr ac arbenigwyr eraill am y cyfleoedd sydd ar gael.
“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid am weithio gyda ni i drefnu’r digwyddiad allweddol hwn mewn lleoliad gwych ac i’r busnesau a sefydliadau eraill sy’n mynychu.”
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac nid oes angen archebu lle. I ddarganfod mwy am Cymru’n Gweithio ewch i: Cymru'n Gweithio | Working Wales (llyw.cymru)
*Mae’r mynychwyr yn gywir ar adeg ysgrifennu. Mae newidiadau yn debyg o ddigwydd.