Newyddion

Cadarnhau rhagor o fanylion ar gyfer Gŵyl Fwyd Casnewydd estynedig

Wedi ei bostio ar Tuesday 12th September 2023

Mae rhagor o fanylion wedi'u cadarnhau ar gyfer Gŵyl Fwyd Casnewydd estynedig eleni. 

Mae'r ŵyl yn cychwyn gyda digwyddiad swper ar y nos Wener, 13 Hydref yn NP20 Bar a Kitchen yng Ngwesty Mercure.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd cogydd noddedig yr ŵyl, Hywel Jones, yn mynd â phobl ar archwiliad coginio o fwyd gwych Cymreig, Sioraidd ac Almaeneg, i ddathlu cysylltiadau Casnewydd â'i dwy ddinas efell Kutaisi a Heidenheim.

Bydd Hywel yn gweini pryd tri chwrs sy'n cynnwys un pryd o fwyd o'r tair gwlad, gan ddechrau gyda therîn planhigyn wy wedi'i ysbrydoli gan flasau Georgia, ac yna stecen cig oen Cymreig, ac yn gorffen gyda strwdel afalau. Bydd bwydlen fegan ar gael hefyd.

Mae nifer prin o docynnau ar gyfer y swper ac maen nhw ar werth nawr, am bris o £45 y pen. Am fwy o wybodaeth neu i gadw’ch lle, ewch i'n dolen archebu.

Mae manylion y masnachwyr a fydd yn y farchnad fwyd draddodiadol ar ddydd Sadwrn, 14 Hydref wedi eu rhyddhau hefyd.

Mae nifer o wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i'r ŵyl, fel Beth's Bakes, Spirit of Wales, Buzbee's Tonics a Pice Bach gan Mam a Fi, yn ogystal â stondinau newydd ar gyfer 2023, gan gynnwys Nannie G's Kitchen a Scout Coffee.

Mae rhestr lawn o fasnachwyr sydd wedi'u cadarnhau ar gael i'w gweld ar wefan yr ŵyl.

Ddydd Sadwrn hefyd bydd Friars Walk yn cynnal y pentref fegan a llysieuol, yn ogystal â rowndiau terfynol cystadleuaeth Gogydd Ifanc Academi Ieuenctid Casnewydd sy’n cael ei chynnal ym Marchnad Casnewydd, cyn i raglen o arddangosiadau gan gogyddion fynd rhagddynt.

Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys y cogyddion sy'n cymryd rhan yn yr arddangosiadau cogydd eleni, yn ogystal â'r rhestr ar gyfer cerddoriaeth fyw a bwyd stryd ar y dydd Sul ar y Stryd Fawr, yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Cadwch lygad ar wefan Gŵyl Fwyd Casnewydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.