Newyddion

Adeiladu ar lwyddiant grantiau busnes

Wedi ei bostio ar Tuesday 19th September 2023

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnig mwy o gymorth ariannol i fusnesau lleol diolch i gyllid gan gronfa ffyniant gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n rhan o'i agenda codi'r gwastad. 

Ers sawl blwyddyn, mae'r cyngor wedi rhoi grantiau i fusnesau bach a chanolig yn y ddinas i helpu gyda busnesau newydd a chostau eraill ac mae hyn yn parhau. 

Fodd bynnag, bydd y rhaglen grantiau cyflymu twf newydd yn datblygu cynllun llwyddiannus iawn trwy gynnig grantiau rhwng £25,000 a £75,000 tuag at fuddsoddiad cyfalaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  “Mae ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer twf a datblygiad y ddinas yn golygu bod canol y ddinas yn destun un o'r rhaglenni adfywio mwyaf yn y DU. 

"Hyd yn hyn mae'r prosiectau a gyflawnwyd wedi cyflawni trawsnewidiad a chyfleoedd sylweddol. Mae cynyddu hyder yng Nghasnewydd wedi gosod y sylfeini i'r ddinas fanteisio ar ei photensial economaidd. 

"Ond ni all y cyngor wneud hyn ar ei ben ei hun ac rydym wedi mabwysiadu dull cydweithredol gyda'n busnesau lleol mentrus. Nhw yw anadl einioes ein cymunedau a'n heconomi. 

"Gwyddom fod y sector busnes wedi wynebu heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly rydym eisiau parhau i gynnig cymorth pryd bynnag a sut bynnag y gallwn. 

"Gwyddom fod grantiau busnes Dinas Casnewydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o fusnesau bach a chanolig a nawr bydd y rhaglen cyflymu twf yn helpu cwmnïau presennol a mewnfuddsoddwyr i wneud ymrwymiad sylweddol i dwf hirdymor yr economi leol. 

“Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod dinas Casnewydd yn cyflawni ei photensial er budd yr economi leol, y busnesau a'r preswylwyr.” 

Mae'r rhaglen cyflymu twf wedi'i hanelu at gwmnïau sefydledig neu newydd i sefydlu adeiladau neu i fusnesau presennol y ddinas gyflymu eu cynlluniau ar gyfer twf. 

Bydd y grantiau'n cael eu cynnig fel arian cyfatebol ar gyfer offer sy'n hanfodol ar gyfer sefydlu busnes newydd neu sy'n galluogi'r busnes i dyfu'n sylweddol. 

Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gysylltu â thîm gwasanaethau busnes arbenigol y cyngor i ddechrau, a all drafod y broses gyda nhw ac asesu eu cymhwysedd. Disgwylir i'r cynllun barhau tan ddechrau 2025. 

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb e-bostio [email protected]

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.