Newyddion

Digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig yng Nghasnewydd ar 18 Tachwedd

Wedi ei bostio ar Friday 20th October 2023

Bydd canol dinas Casnewydd yn cynnal digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig ysblennydd yn llawn hwyl i'r teulu cyfan ddydd Sadwrn 18 Tachwedd.

Bydd y digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig rhwng 3pm a 5.15pm ac yn cynnwys cerddoriaeth fyw, reidiau ffair a gwesteion enwog gan ddod i ben gyda goleuadau Nadolig canol dinas Casnewydd yn cael eu cynnau ac arddangosfa tân gwyllt syfrdanol.

Wedi’i drefnu gan Ardal Gwella Busnes (AGB) Newport Now mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Friars Walk a Radio Dinas Casnewydd, bydd y digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig yn adlewyrchu digwyddiadau blaenorol hynod lwyddiannus yr AGB gyda'r prif lwyfan ar gyffordd Charles Street a Commercial Street.

Denodd y digwyddiad y llynedd dros 7,000 o bobl ychwanegol i ganol y ddinas o gymharu â dydd Sadwrn arferol.

Bydd perfformwyr cerddorol ar y llwyfan yn ystod y dydd, a bydd gwestai arbennig yn helpu maer y ddinas, y Cynghorydd Trevor Watkins, i bwyso'r botwm i oleuo canol y ddinas ar gyfer yr ŵyl.

Bydd reidiau ffair ar hyd glan yr afon, a bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda'r goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau am 5pm ac yna arddangosfa tân gwyllt am 5.15pm.

Dywedodd cadeirydd AGB Newport Now, Zep Bellavia: "Rydym yn falch ac yn gyffrous i fod yn cyflwyno ein wythfed digwyddiad blynyddol Ar Drywydd y Nadolig i lansio cyfnod masnachu'r ŵyl yng nghanol y ddinas.

Rydym yn sicr y bydd eleni yr un mor boblogaidd â digwyddiadau blaenorol ac, fel arfer, bydd awyrgylch teuluol gwych ar y diwrnod.

Mae'r AGB yn cynrychioli mwy na 600 o fusnesau yng nghanol y ddinas.  Mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n fentrau annibynnol bach ac rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl Casnewydd a'r ardal gyfagos yn eu cefnogi yn ystod tymor siopa'r Nadolig."

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae Ar Drywydd y Nadolig bob amser yn achlysur arbennig iawn i'r ddinas ac yn denu miloedd o bobl i ganol y ddinas.

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid, yn enwedig Ardal Gwella Busnes Newport Now, am drefnu digwyddiad mor wych a braf. Mae'n ddechrau perffaith i dymor yr ŵyl.

Rwy'n annog pobl i siopa'n lleol, nid yn unig ar gyfer y Nadolig ond drwy gydol y flwyddyn. Mae gan Gasnewydd fanwerthwyr a mannau lletygarwch gwych y mae llawer ohonynt yn fentrau annibynnol, bach.  Mae pawb angen eich busnes a'ch cefnogaeth i sicrhau y gallant barhau i gynnig eu gwasanaethau a chyflogi pobl leol.”

Dywedodd Simon Pullen, Cyfarwyddwr Canolfan Friars Walk:  "Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o ddigwyddiad Ar Drywydd y Nadolig yng Nghasnewydd, gan ei fod yn symbol o lansiad swyddogol tymor yr ŵyl ac yn ddiwrnod cyffrous yng nghanol y ddinas.

Fel noddwyr balch, rydym yn gyffrous i gyfrannu at y digwyddiad trwy gefnogi'r arddangosfa tân gwyllt ysblennydd, sy'n siŵr o fod yn boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr."

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Radio Dinas Casnewydd, Ian Lamsdale: "Rydyn ni'n dweud ein bod ni gyda chi yn y digwyddiadau mwyaf ar draws y ddinas a dyma’r un. Fel bob amser, mae gennym ni'r talent lleol newydd gorau i chi, eleni gyda The Rogues, band gwych o Gasnewydd.

Yna bydd angen i chi wneud rhywfaint o sŵn gyda ni a’n gwesteion anhygoel, wrth i ni adeiladu at uchafbwynt 2023 - Cynnau'r Goleuadau Nadolig. Am ffordd i orffen ein 15fed flwyddyn fel eich gwasanaeth radio cymunedol!”

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad – gan gynnwys manylion am y gwestai enwog a pherfformwyr cerddorol eraill – yn cael eu datgelu dros yr wythnosau nesaf.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.