Newyddion

Ysgol Gynradd Eveswell

Wedi ei bostio ar Friday 20th October 2023

Wrth wneud gwaith cynnal a chadw arferol yn Ysgol Gynradd Eveswell, nodwyd ardal yr oedd angen ei harchwilio ymhellach. Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud ar unwaith. 

Mae arbenigwyr technegol annibynnol wedi cadarnhau bod ychydig bach o RAAC yn bresennol, ond nid yw'n cyflwyno risg oherwydd ei leoliad a'i faint. 

Mae'r ardal benodol wedi'i lleoli'n fewnol ac yn cael ei chefnogi gyda dur, ac adeiladau a ystyrir â risg uchel yw strwythurau toeon RAAC sy'n agored i'r elfennau (e.e. glaw), gan achosi'r deunydd i wanhau. Nid oes unrhyw ardaloedd eraill sy'n peri pryder yn yr ysgol.  

Ni ystyriwyd bod gan yr ysgol risg uchel oherwydd y to sydd ar oleddf a'r dyddiad adeiladu. 

Bydd arolwg manwl pellach o'r ardal sydd wedi ei heffeithio ac unrhyw waith rhagweithiol sydd ei angen i sicrhau bod yr ardal yn parhau'n ddiogel yn yr hirdymor yn cael ei wneud ar unwaith. 

Nid yw disgyblion yn cael eu symud oherwydd unrhyw bryderon diogelwch, dim ond er mwyn caniatáu i waith archwilio gael ei wneud yn ardaloedd yr ystafelloedd dosbarth. 

Rydym yn gwneud popeth posibl i darfu cyn lleied â phosibl a byddwn yn defnyddio un wythnos o ddysgu cyfunol a'r egwyl hanner tymor i wneud cynnydd ar y gwaith hwn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.