Newyddion

Tîm y Cyngor yn ennill dwy wobr

Wedi ei bostio ar Friday 13th October 2023

Mae tîm rheoli adeiladu Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill cydnabyddiaeth mewn dau gategori yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC. 

Enillodd Y Sied yn Treberth Crescent, prosiect gan JG Hale Construction, Ainsley Gammon Architects a Pobl Group, y llety pwrpasol gorau yn y gwobrau rhanbarthol. 

Enwyd Marchnad Casnewydd hefyd fel yr addasiad, yr ailwampiad neu’r estyniad amhreswyl gorau. Roedd ei dîm prosiect yn cynnwys Loftco, Amser Building Services ac Ellis Williams Architects.  Gweithiodd tîm y cyngor ar y cyd ar y cynllun gyda'u cydweithwyr o Gyngor Bro Morgannwg. 

Dwedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio: "Llongyfarchiadau i'r tîm rheoli adeiladu ac mae hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol am eu gwaith rhagorol. 

"Mae'n dangos eu hymrwymiad i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cyflawni mewn prosiectau adeiladu a wneir yn y ddinas yn ogystal â meithrin partneriaethau cryf a chefnogol gyda datblygwyr."

Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC yw'r gwobrau busnes i fusnes mwyaf yn y sector rheoli adeiladu yn y DU. 

Maent yn agored i unrhyw un sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu lle darparwyd rheolaeth adeiladu gan awdurdod lleol. 

Bydd pob enillydd rhanbarthol yn cael mynd ymlaen ar gyfer y Rownd Derfynol yn gynnar yn 2024 pan fydd yr enillwyr ar lefel y DU yn cael eu cyhoeddi.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.