Newyddion

Cefnogwch Ddiwrnod y Rhuban Gwyn 2023

Wedi ei bostio ar Wednesday 22nd November 2023

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn 2023 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 25 Tachwedd ac eleni rydym am #NewidYStori. 

Mae White Ribbon UK yn gweithio i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched. Gofynnir i unigolion a sefydliadau ddangos eu cefnogaeth trwy ddod yn gynghreiriad i fenywod a merched. 

Eleni mae Cyngor Dinas Casnewydd yn nodi'r diwrnod a'r 16 diwrnod o weithredu drwy gynnal digwyddiadau codi ymwybyddiaeth ar gyfer staff. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Rwy'n cefnogi nod y Rhuban Gwyn i atal trais yn erbyn menywod a merched cyn iddo ddechrau. 

“Mae White Ribbon UK yn galw ar ddynion a bechgyn i fod yn wneuthurwyr newid a dod yn gynghreiriaid i fenywod a merched.  Gyda'n gilydd, gallwn helpu i newid y stori fel y gall menywod a merched fyw eu bywydau heb ofn." 

Dywedodd Beverly Owen, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae'n bwysig fel cyflogwr ein bod yn cynnig cefnogaeth i'n gweithwyr a allai fod wedi profi aflonyddwch, cam-drin domestig neu drais. 

"Yn ystadegol, gwyddwn fod aelodau o staff yn cael eu heffeithio gan y problemau hyn gan fod 30 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu yn y gweithle, a phrofodd 1.7 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022. 

"Mae sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth staff wythnos yma ac wythnos nesaf. 

"Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar fewnrwyd y cyngor i weithwyr sydd angen cymorth gydag unrhyw un o'r problemau hyn, neu sydd eisiau gwybod ble i gael help ar gyfer rhywun arall." 

Am fwy o wybodaeth am Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ewch i https://bit.ly/WhiteRibbonDay2023

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.