Newyddion

Hwb mawr i ymchwilwyr wrth geisio dyddio tarddiad Llong Ganoloesol Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd November 2023

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi hwb mawr wrth geisio dyddio Llong Ganoloesol Casnewydd.

Trwy ddefnyddio dendrocronoleg isotop ocsigen (sef yr astudiaeth o ddata cylchoedd coed), maent wedi penderfynu bod coed strwythurol dethol corff y llong wedi'u gwneud o goed derw a gwympwyd yng ngaeaf 1457-58. 

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd heddiw yn yr International Journal of Nautical Archaeology, yn awgrymu bod y llong wedi'i hadeiladu yn fuan wedi hynny ac y bu ganddo fywyd gwaith o tua deng mlynedd cyn dod i Gasnewydd i'w atgyweirio ddiwedd y 1460au.

Mae ymchwil blaenorol wedi dangos bod coed y llong yn tarddu o goedwigoedd yng Ngwlad y Basg yng ngogledd Sbaen a’i bod yn debygol i’r llong gael ei hadeiladu ar hyd glannau Gwlad y Basg.

Mae dadansoddiad o'r arteffactau, gweddillion cargo ac olion planhigion o'r llong wedi datgelu cysylltiadau masnachu â Phortiwgal. 

Ni ddarganfuwyd olion gweddillion y llong ar lannau Afon Wysg am rai canrifoedd. Fe'u canfuwyd yn 2002 yn ystod y gwaith adeiladu ar gyfer Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon.

Mae'r olion hyn wedi cael eu glanhau, eu cofnodi a'u cadw'n ofalus: daeth y gwaith cadwraeth ar y coed i ben yn gynharach eleni. Mae'r prosiect bellach yn canolbwyntio ar gynllunio ail-gyfosod ac arddangos corff y llong a'r arteffactau.

Gall ymwelwyr ddysgu mwy am hanes y llong yng nghanolfan ymwelwyr Llong Casnewydd.  Dydd Sadwrn a Dydd Sul (3 a 4 Tachwedd) fydd y penwythnos olaf y bydd y ganolfan ar agor cyn iddi gau ar gyfer y gaeaf, gan ailagor eto ddiwedd Mawrth 2024.

Mae mynediad i'r ganolfan am ddim, ac mae parcio ar gael ar y safle.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.