Newyddion

Cynnig i fynd i'r afael â thai gwag

Wedi ei bostio ar Friday 10th November 2023

Yr wythnos nesaf, bydd cabinet Cyngor Dinas Casnewydd yn ystyried cynnig i ofyn barn pobl ar gyflwyno premiwm ar y dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag ac ail gartrefi hirdymor yn unig.

Mae'r galw am dai fforddiadwy yn drech na'r cyflenwad ond mae dros 800 o eiddo yn y ddinas sydd wedi bod yn wag am o leiaf blwyddyn a 15 o ail gartrefi.

Ym mis Mawrth, roedd dros 450 o aelwydydd mewn llety dros dro. Mae dros 9,000 o bobl wedi cofrestru ar gyfer tai cymdeithasol ond yn 2021/22 dim ond 686 o dai cymdeithasol newydd ar osod oedd ar gael.

Fel rhan o benderfyniad y cyngor i fynd i'r afael â digartrefedd, mae am weld cynnydd yn nifer y tai fforddiadwy o ansawdd da sydd ar gael.

Gwnaed ymdrechion i annog perchnogion cartrefi gwag i’w dychwelyd i ddefnydd buddiol, ond ni chafwyd fawr o lwyddiant.

Ym mis Ebrill 2019, dileodd y cyngor ddisgownt dewisol ar gartrefi gwag ac, ar wahân i eithriadau statudol, ni chaniateir gostyngiadau.

Caniateir i gynghorau godi premiwm treth gyngor o hyd at 300 y cant ac mae'r rhan fwyaf ledled Cymru eisoes wedi dechrau, neu ar fin dechrau, codi tâl.

I bob pwrpas, byddai premiwm o 100% yn dyblu swm y dreth gyngor safonol ar gyfer eiddo.

Bu’n rhaid i’r cyngor fuddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau tai dros y blynyddoedd diwethaf wrth iddo ymdrin â'r galw cynyddol. Pe bai'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, byddai'r cyngor yn cadw swm llawn premiwm y dreth gyngor a byddai'n cyfrannu tuag at wariant sy'n gysylltiedig â thai.

Bydd y Cabinet yn penderfynu a ddylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ei gyfarfod ddydd Mercher. Bydd yn ystyried ymatebion yn ddiweddarach yn y flwyddyn cyn penderfynu a ddylid gofyn i'r cyngor llawn gyflwyno'r cynllun.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.