Newyddion

Casnewydd yn ymuno â brwydr fyd-eang i fynd i'r afael â HIV/AIDS

Wedi ei bostio ar Monday 20th November 2023

Mae Casnewydd wedi ymuno â rhwydwaith byd-eang o dros 300 o ddinasoedd sydd wedi ymrwymo i ddileu heintiau HIV a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag AIDS.

Mae'r rhwydwaith Dinasoedd Trac Cyflym yn fenter ryngwladol sy'n gweithio i ddod ag achosion newydd o HIV i ben erbyn 2030, heb unrhyw farwolaethau y gellir eu hatal sy’n deillio o HIV/AIDS, dim stigma a dim gwahaniaethu ac ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw gyda HIV.

Casnewydd yw'r ail ddinas yng Nghymru i ymuno â'r rhwydwaith, ar ôl Caerdydd a'r Fro.

Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2014 pan lofnodwyd Datganiad Paris ar Ddiwrnod AIDS y Byd.  Mae dinasoedd yn y rhwydwaith yn addo cydweithio a rhannu arferion gorau i gyrraedd y targedau a nodir yn y datganiad.

Mae'r cyngor wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) a Pride in the Port i sefydlu grŵp Fast Track Casnewydd. Bydd Casnewydd yn dod yn ddinas fraenaru, gyda'r potensial i'r cynllun ehangu i ardal ehangach BIPAB. Mae gan y grŵp gefnogaeth Martyn Butler OBE, un o drigolion Casnewydd, cyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ar gyfer y cynlluniau.

I ddechrau, bydd grŵp Casnewydd yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o brofion a’r niferoedd sy'n cael eu profi
  • Lleihau'r stigma ynghylch HIV
  • Estyn allan at gymunedau sydd yn draddodiadol wedi cael eu tanwasanaethu o ran mynediad at wasanaethau HIV.

Fe wnaeth y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor, arwyddo Datganiad Paris y bore yma mewn seremoni yn y ganolfan ddinesig.

Wrth siarad yn y seremoni, dwedodd y Cynghorydd Mudd: "Rwy'n falch iawn o allu llofnodi'r datganiad hwn ar ran dinas Casnewydd. 

"Bydd ymuno â Dinasoedd Fast Track yn rhoi cefnogaeth ac adnoddau rhwydwaith byd-eang o wybodaeth a phrofiad y gallwn eu defnyddio ar lefel leol i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl sy'n byw gyda HIV.”

Dwedodd Cynghorydd Laura Lacey, Hyrwyddwr LGBTQIA+ Cyngor Dinas Casnewydd, "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid ers tro ar y cynlluniau hyn, ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu ychwanegu ein henw at y rhestr gynyddol o ddinasoedd sy'n dod at ei gilydd i fynd i'r afael â HIV/AIDS.

"Er bod y cyngor wedi llofnodi'r datganiad ar ran y ddinas, mae hwn yn brosiect a arweinir gan y gymuned i raddau helaeth.  Rwy'n falch iawn bod Pride in the Port yn gweithio gyda ni ar hyn."

Dwedodd Andrew Mudd, ymddiriedolwr i Pride in the Port: "Mae Pride in the Port yn gefnogwyr balch o'r fenter FastTrack, yng Nghasnewydd a thu hwnt.  Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid o bob rhan o'n dinas er mwyn helpu i gyflawni'r fenter anhygoel hon.

"Efallai bod Casnewydd yn ddinas fach, ond mae'n ddinas uchelgeisiol, ac ni allaf feddwl am le gwell na chymunedau gwell i helpu i gyflawni'r nod Fast Track sef dim achosion o drosglwyddo HIV erbyn 2030.

"Rydym yn credu'n gryf y gall ac y bydd Fast Track yn achub bywydau ac edrychwn ymlaen at chwarae rhan yn ei lwyddiannau yn y dyfodol.

Dwedodd Gian Molinu, Cadeirydd Fast Track Caerdydd a’r Fro: "Rydym wrth ein bodd mai Casnewydd yw'r ail Ddinas Fast Track i arwyddo yng Nghymru ac y byddant yn gweithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddangos i bobl sut mae HIV wedi newid.

"Mae triniaeth yn golygu y gallwch gael swydd, teulu, a byw bywyd hir ac iach."

Am fwy o wybodaeth am Ddinasoedd Fast Track, ewch i https://www.fast-trackcities.org/.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.