Digwyddiad am ddim i ofalwyr ar 23 Tachwedd
Wedi ei bostio ar Monday 20th November 2023
Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr, ddydd Iau 23 Tachwedd, wedi’i neilltuo i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl a’r heriau y maent yn eu hwynebu.
I nodi'r diwrnod, mae tîm cysylltwyr cymunedol Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal digwyddiad gwybodaeth am ddim yng Nglan yr Afon.
Bydd partneriaid lleol yn ymuno â staff, rhwng 1.30pm a 5pm, i ddarparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr di-dâl yn y ddinas. Bydd crefft cardiau Nadolig a dangosiad ffilm Disney Pixar, Elemental, ar gyfer gofalwyr ifanc a'u teuluoedd a'r gofalwyr sy’n ifanc eu hysbryd. Bydd lluniaeth am ddim ar gael.
Gofalwr yw rhywun o unrhyw oedran sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na allai ymdopi heb ei gymorth. Gall hyn olygu gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, â salwch iechyd meddwl, problemau cam-drin sylweddau neu y mae angen ychydig mwy o gymorth arno wrth fynd yn hŷn.
Gall y cyngor gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Care-Support/Carers/Carers.aspx Cysylltwch â'r tîm cysylltwyr cymunedol drwy e-bost community.connectors@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 235650 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm).