Newyddion

Pen-blwydd nodedig y cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Wedi ei bostio ar Monday 27th November 2023

Ddeng mlynedd yn ôl, arweiniodd Cymru y ffordd fel y wlad gyntaf yn y DU i wneud arddangos sgoriau hylendid bwyd yn ofyniad cyfreithiol.  

Ers mis Tachwedd 2013, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau yng Nghymru arddangos eu sticer sgorio hylendid bwyd mewn man amlwg - fel y drws ffrynt, y fynedfa neu'r ffenestr. 

Mae'r Cynllun wedi darparu buddion parhaol i ddefnyddwyr a busnesau ac mae'n cael ei ddathlu fel un o gyflawniadau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y wlad yn yr 21ain ganrif. 

Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r cynllun wedi codi safonau busnesau bwyd yng Nghasnewydd gyda mwy na 70 y cant o fusnesau yn arddangos sgôr o 5 a 95.4 y cant gyda sgôr o 3 neu uwch. 

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet y cyngor dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio:  "Mae'r sticeri du a gwyrdd nodweddiadol sy'n cael eu harddangos mewn safleoedd bwyd yn rhoi'r sicrwydd i bobl bod busnesau'n cymryd hylendid a safonau bwyd o ddifrif.  

"Mae sticeri sgorio hylendid bwyd yn ffordd syml a thryloyw o ddangos canlyniadau'r arolygiad hylendid gan ein swyddogion. Mae'r cynllun yn rhoi hyder i ddefnyddwyr bod bwyd yn cael ei baratoi a'i weini mewn ffordd lân, ac mae'r busnes yn bodloni ei ofynion deddfwriaethol ar gyfer hylendid bwyd." 

Mae'r cynllun yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch ble maen nhw'n prynu ac yn bwyta bwyd bob dydd ac mae arddangos graddfeydd yn orfodol hefyd yn annog busnesau bwyd i wella eu safonau hylendid.  

Gall pob busnes bwyd ennill y sgôr uchaf o ‘5 – da iawn’ drwy wneud yr hyn sy’n ofynnol yn ôl cyfraith bwyd. Cofiwch! Mae sgôr hylendid da yn gadarnhaol i fusnesau – gan gynnig mantais gystadleuol i’r rhai sydd â’r sgôr hylendid uchaf. 

Ni ddylid diystyru effaith y Cynllun. Mae’r Cynllun gorfodol wedi arwain at wella safonau hylendid mewn busnesau bwyd, gyda 96% o fusnesau yng Nghymru bellach yn arddangos sgôr o ‘3’ neu uwch. 

Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sydd â sgôr uwch yn llai tebygol o fod yn gyfrifol am achosion o salwch a gludir gan fwyd. 

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Rydym yn falch o gynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun. Wrth ymgysylltu’n rheolaidd â busnesau bwyd, maent wedi chwarae rhan allweddol wrth godi safonau hylendid i’r fath lefelau heddiw. Mae’r Cynllun yn caniatáu i bobl bleidleisio â’u traed neu drwy glicio botwm a dewis y busnesau hynny sy’n cymryd hylendid bwyd o ddifrif.” 

Cofiwch holi am y Sgôr Hylendid Bwyd, edrych am y sticer, neu wirio ar-lein cyn prynu bwyd: https://ratings.food.gov.uk/cy

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.