Diweddariad Ysgol Gynradd Eveswell
Wedi ei bostio ar Monday 6th November 2023
Bydd pob disgybl yn dychwelyd i Ysgol Gynradd Eveswell ddydd Llun 6 Tachwedd ar ôl i waith adfer yn ystod y seibiant hanner tymor gael ei gwblhau.
Yng nghanol mis Hydref, cadarnhaodd arbenigwyr technegol annibynnol fod ychydig bach o CAAD yn bresennol yn rhan o'r adeilad.
Nid oedd yn peri risg oherwydd ei leoliad mewnol a'i faint ac mae wedi cael ei atgyfnerthu â dur. Ystyrir bod adeiladau'n risg uchel os yw'r CAAD mewn strwythurau to sy'n agored i'r elfennau.
Fodd bynnag, gwnaed gwaith atgyfnerthu yn ystod y gwyliau i ddiogelu ymhellach yr ardal oedd yn cynnwys CAAD.
Yn ystod yr wythnos cyn hanner tymor, symudwyd rhai disgyblion i ganiatáu i waith ymchwilio gael ei wneud a rhoddodd yr ysgol fesurau dysgu cyfunol ar waith. Hoffai'r Cyngor ddiolch i staff, disgyblion a theuluoedd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.