Lansio cynllun cyflogaeth a sgiliau
Wedi ei bostio ar Friday 17th November 2023
Bydd prosiect newydd yn cynnig cymorth i bobl a allai fod yn colli allan ar gynlluniau eraill a all wella eu rhagolygon cyflogadwyedd.
Bydd cynllun cyflogaeth a sgiliau y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithio gydag unigolion i roi'r offer sydd eu hangen arnynt i'w helpu i gael gwaith cynaliadwy, dysgu pellach neu her newydd.
Mae'r cynllun yn agored i'r rhai sy'n ddi-waith. Mae hefyd yn agored i bobl sydd mewn gwaith, os ydynt yn bodloni meini prawf penodol.
Mae'n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'i ddarparu gan Gyngor Dinas Casnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob preswylydd fynediad at gymorth i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wella’u rhagolygon swyddi.
“Rydym yn defnyddio cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i helpu pobl a allai fod yn colli cyfleoedd i gael mynediad at gymorth cyflogadwyedd.
“Mae'n elfen bwysig arall o'r rhaglen gwaith a sgiliau sy'n cael ei chyflwyno gan y cyngor i'n trigolion.”
Agored i drigolion Casnewydd sy'n 18 oed neu hŷn ac
- yn ddi-waith ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer Cymunedau am Waith+, Restart na'r academi ieuenctid
- sy’n cael eu cyflogi ond heb unrhyw gymwysterau uwch na QCF (Fframwaith Cymwysterau a Chredyd lefel 2
- angen cymorth gyda dysgu Saesneg (os nad Saesneg yw'r iaith gyntaf)
Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch SPF34@newport.gov.uk neu ffoniwch 07581018052
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i’w fuddsoddi’n lleol erbyn mis Mawrth 2025.
Nod y gronfa yw gwella balchder mewn ardaloedd a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau ac ardaloedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
Mae'r cyngor wedi derbyn mwy na £30 miliwn o'r gronfa ar gyfer ystod eang o brosiectau ledled y ddinas.