Mae'r ddinas yn nodi Sul y Cofio gyda gorymdaith a gwasanaeth blynyddol
Wedi ei bostio ar Tuesday 7th November 2023
Cynhelir gorymdaith a gwasanaeth Coffa blynyddol Casnewydd ddydd Sul 12 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.
Bydd Band Stedfast Casnewydd yn arwain yr orymdaith a fydd yn gadael y Stryd Fawr am 10:35am gan wneud ei ffordd i'r Senotaff yn Clarence Place. Bydd Côr Meibion Dinas Casnewydd hefyd yn bresennol yn y senotaff ynghyd â Band Pres Bwrdeistref Casnewydd.
Bydd y gwasanaeth, dan arweiniad y Parchedig Keith Beardmore, yn cael ei gynnal wrth Senotaff Casnewydd am 10.58am gyda'r gynnau'n seinio am 11am i nodi dechrau'r ddau funud o dawelwch.
Cynghorir trigolion y bydd ffyrdd ar gau o 7am — 1pm. Y ffyrdd yr effeithir arnynt fydd; Stryd y Doc Uchaf (o Stryd Skinner i gylchfan Hen Werdd), cylchfan Hen Werdd (gan gynnwys ffyrdd ymuno), Hen Bont y Dref, Clarence Place, Ffordd Caerllion (o Clarence Place i Ffordd yr Eglwys), Heol Cas-gwent (o Clarence Place i Ffordd Cedar), Ffordd Corporation (o Clarence Place i Ffordd Vincent Road), Ffordd Dwyrain Wysg (o Clarence Place i Stryd Tregare), Stryd Fawr, Stryd Griffin a Stryd y Farchnad.
Ddydd Sadwrn 18 Tachwedd bydd gwasanaeth Cofio'r Llynges Fasnachol yn cael ei gynnal yn Mariners Green.