Casnewydd i lansio casgliadau biniau bob tair wythnos
Wedi ei bostio ar Friday 17th March 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cyflwyno newidiadau i'r ffordd y mae'n casglu gwastraff cartref.
Bydd biniau sbwriel cartref a biniau gwastraff gardd yn cael eu casglu unwaith bob tair wythnos. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn cael eu casglu unwaith bob pythefnos.
Daw'r newid i helpu'r cyngor i gyrraedd eu targedau ailgylchu. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ailgylchu tua 67 y cant o'r gwastraff y mae'n ei gasglu. Er mwyn cyrraedd targedau llywodraeth Cymru, mae angen i hynny gynyddu i 70 y cant erbyn 2024/25.
Bydd methu â chyrraedd y targed hwn yn golygu bod y cyngor yn atebol am ddirwyon. Ar y raddfa ailgylchu bresennol, byddai'r ddirwy o fis Ebrill 2025 dros £500,000 y flwyddyn.
Bydd pob gwasanaeth gwastraff arall yn aros yn ei hunfan. Mae hyn yn golygu y bydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn parhau i gael eu casglu'n wythnosol, ac fe fydd bagiau hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos.
Bydd newidiadau bach yn cael eu gwneud i gynwysyddion ailgylchu fydd yn helpu trigolion i ailgylchu mwy o'u gwastraff, gan gynnwys:
- Bagiau glas newydd ar gyfer papur a chardfwrdd. Bydd hyn yn fwy na'r bocs glas presennol, a bydd y bag yn cymryd ei le, gan roi mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion.
- Bydd gwydr ac eitemau trydanol yn cael eu casglu yn y bocs gwyrdd.
- Gofynnir i drigolion fagio tecstilau ar wahân.
- Bydd trigolion hefyd yn gallu archebu mwy o gynwysyddion ailgylchu os oes angen.
Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno cyn symud i gasgliadau fesul tair wythnos.
Mae dadansoddiad o'r gwastraff a gasglwyd yng Nghasnewydd yn dangos bod modd ailgylchu bron i 40 y cant o'r hyn sy'n mynd i finiau sbwriel cartref ar ymyl y ffordd ar hyn o bryd.
Mae nifer o gynghorau eraill yng Nghymru a ledled y DU naill ai'n ystyried symud i gasgliad bob tair neu bedair wythnos ar gyfer biniau sbwriel, neu eisoes wedi gwneud hynny.
Mae cynghorau sydd eisoes wedi gwneud y newid wedi nodi cynnydd mewn cyfraddau ailgylchu o ganlyniad, tra nad yw ofnau am aroglau cynyddol, fermin a thipio anghyfreithlon wedi dod yn realiti.
Bydd cam cyntaf o'r cylch casglu newydd yn cael ei gynnal yn y gwanwyn. Bwriad hyn yw rhoi'r wybodaeth orau bosibl i ni am sut mae'r trefniadau newydd yn gweithio, cyn eu cyflwyno'n llawn yn yr hydref.
Bydd y cam cyntaf yn cael ei gynnal mewn tua 12,100 o aelwydydd. Mae cymysgedd o strydoedd a chymysgedd o aelwydydd wedi eu dewis o bob rhan o'r ddinas.
Bydd trigolion y mae eu strydoedd wedi eu dewis ar gyfer y cam cyntaf yn cael eu hysbysu'n uniongyrchol ynglŷn â phryd y bydd y newidiadau'n digwydd, a beth i'w ddisgwyl.
Yna bydd pob un o drigolion eraill Casnewydd yn derbyn gwybodaeth am y newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cyn iddyn nhw ddod i rym.
Bydd y cyngor hefyd yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth gyda'r newidiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Er bod Casnewydd yn un o'r dinasoedd sy'n perfformio orau yn y DU o ran ein cyfradd ailgylchu, mae gennym waith i'w wneud o hyd os ydym am gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru'r dyfodol.
"Bydd y newidiadau pwysig hyn yn ein galluogi i gyrraedd y targed hwnnw wrth barhau i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff cynhwysfawr i drigolion.
"Byddwn yn annog trigolion i wneud defnydd o'r holl wasanaethau casglu gwastraff sydd ar gael iddyn nhw, ac i gysylltu â ni os oes angen unrhyw gefnogaeth neu gyngor ynglŷn â'r newidiadau."
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor a chaiff ei rhannu drwy sianeli cyfathrebu'r cyngor yn y cyfnod cyn cyflwyno'r newidiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.