Newyddion

Dirwyo cwmni am gamarwain cwsmer

Wedi ei bostio ar Thursday 23rd March 2023

Cafodd cwmni ceir o Gasnewydd a'i gyfarwyddwr eu dirwyo am dorri deddfwriaeth sydd wedi'i llunio i amddiffyn defnyddwyr mewn perthynas â gwerthu car. 

Cyfaddefodd CMB Value Car Sales a Nicholas Ward, a gafodd eu herlyn gan Gyngor Dinas Casnewydd, ddwy drosedd o dan y Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. 

Plediodd y cwmni, o Mill Parade, Casnewydd, yn euog yn llys ynadon Cwmbrân a chafodd ddirwy o £2,000 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £190. 

Gwnaeth Ward, o Pentwyn Terrace, Maerun, hefyd gyfaddef y troseddau a chafodd ei orchymyn i dalu dirwy o £2000, costau o £857 ac iawndal i'r prynwr ceir o £849.49. 

Yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion safonau masnach y cyngor, cafodd Ward ei chyhuddo o werthu Peugeot 308 gan ddefnyddio ymwadiadau fel "gwerthwyd fel y gwelwyd" a "dim polisi ad-dalu" yn groes i reoliadau a gynlluniwyd i amddiffyn defnyddwyr. 

Ddyddiau'n unig ar ôl prynu'r car, bu'n rhaid i'r cwsmer gael gwaith trwsio wedi’i wneud arno ac yn fuan wedyn darganfuwyd namau pellach. Dywedodd Ward wrth y cwsmer fod y car yn cael ei "werthu fel y gwelwyd". 

Mewn cyfweliad, dywedodd nad oedd yn ymwybodol o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 a hawliau statudol defnyddwyr wrth brynu nwyddau neu Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a'i bod yn drosedd cyfyngu ar hawliau statudol defnyddwyr. 

Gwnaeth y cwsmer hefyd fynd â'r cwmni i'r llys sifil ar ôl cael cyngor gan safonau masnach, ac ennill yr achos. 

Deellir nad yw CMB Value Car Sales yn masnachu bellach ac mae Ward wedi ymddiswyddo fel yr unig gyfarwyddwr. 

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet y cyngor dros gynllunio strategol, tai a rheoleiddio:  "Mae'n hanfodol bwysig bod unrhyw un sy'n berchen ar neu'n rhedeg busnes yn cyfarwyddo’u hunain â deddfwriaeth defnyddwyr. Fel mae'r achos hwn yn dangos, nid yw anwybodaeth yn esgus. 

"Rwy'n falch bod yr ynadon wedi cydnabod pa mor ddifrifol oedd y troseddau hyn a bod ein tîm safonau masnach wedi gallu helpu'r cwsmer hwn i gael cyfiawnder yn y llysoedd troseddol a sifil."

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.