Newyddion

Cydnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Friday 2nd June 2023

Mae dros 6.5 miliwn o bobl yn y DU yn ofalwyr di-dâl ac mae'n debyg y bydd 3 o bob 5 ohonom yn ofalwyr di-dâl ar ryw adeg yn ein bywydau.  Gall fod yn hynod foddhaus gofalu am anwyliad ac mae gofalwyr di-dâl yn aml yn dweud eu bod ond yn cyflawni rôl gŵr, gwraig, mam, tad, merch, mab, ffrind neu gymydog da. 

Cynhelir Wythnos Gofalwyr eleni rhwng 5 a 11 Mehefin a bydd yn codi ymwybyddiaeth o werth gofalwyr di-dâl.  Bydd hefyd yn helpu pobl nad ydyn nhw’n eu hystyried eu hunain yn bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu i uniaethu fel gofalwyr a chael gafael ar gymorth y mae mawr ei angen.

Nid yw gofalu heb ei heriau ac mae'n bwysig bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cefnogi i gynnal eu lles eu hunain, gan eu galluogi i barhau i ofalu. 

Gofalwr di dâl yw rhywun sy'n gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog na allai ymdopi heb ei gymorth.  Gallai hyn fod oherwydd salwch, anabledd, salwch meddwl, iechyd, camddefnyddio sylweddau neu eiddilwch. Gallant fod o unrhyw oedran - gallai gofalwyr ifanc ofalu am berthynas drwy helpu gyda choginio, glanhau, siopa neu ofalu am frodyr a chwiorydd, tra gallai gofalwyr hŷn ofalu am eu priod, perthynas neu ffrind.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr Aelod Cabinet dros les cymunedol: Mae cysylltwyr cymunedol y cyngor yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd -  gan gynnwys rhannu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau cymorth lleol, yn ogystal â darparu gwybodaeth am fudiadau gwirfoddol a all helpu gofalwyr i ailgysylltu â'u cymuned.    

Ar ddydd Llun 5 Mehefin bydd y ganolfan ddinesig yn cael ei goleuo i gydnabod yr holl ofalwyr di-dâl yng Nghasnewydd. 

Bydd digwyddiad gwybodaeth am ddim hefyd ar gyfer gofalwyr di-dâl ar ddydd Iau 8 Mehefin, rhwng 2pm a 5pm. Bydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd, a bydd yn cynnwys gemau i'r teulu a hwyl tan 6:30pm. Bydd bwffe a lluniaeth ar gael hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01633 235650. Gall gofalwyr hefyd ymuno â'r Rhwydwaith Gofalwyr i dderbyn newyddion a gwybodaeth reolaidd.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn www.newport.gov.uk/gofalwyr

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.