Cam cyntaf y cynllun casglu biniau bob tair wythnos yn dechrau 19 Mehefin
Wedi ei bostio ar Monday 5th June 2023
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd cam cyntaf ei amserlen casglu biniau bob tair wythnos newydd yn dechrau ddydd Llun 19 Mehefin.
Yn yr amserlen newydd, bydd biniau sbwriel cartref a biniau gwastraff gardd yn cael eu casglu unwaith bob tair wythnos. Ar hyn o bryd maen nhw’n cael eu casglu unwaith y pythefnos.
Bydd tua 12,100 o aelwydydd ledled y ddinas yn symud i’r system tair wythnos yn rhan o'r cam cyntaf. Mae cymysgedd o strydoedd a chymysgedd o aelwydydd wedi eu dewis o bob rhan o'r ddinas.
Mae rhestr lawn o strydoedd a fydd yn symud i’r system tair wythnosol yn rhan o'r cam cyntaf ar gael ar wefan y cyngor. O heddiw (5 Mehefin) a thros y pythefnos nesaf, bydd trigolion y strydoedd sydd wedi’u dewis yn cael:
- llythyr i roi gwybod bod y newidiadau ar fin dechrau
- taflen i esbonio goblygiadau’r newidiadau a’r rhesymau dros eu cyflwyno
- calendr yn dangos eu dyddiadau casglu newydd yn y deuddeg mis nesaf o fis Mehefin 2023
Bydd trigolion eraill yng Nghasnewydd yn cael gwybodaeth maes o law, cyn i newidiadau ddod i rym.
Daw'r newid i helpu'r cyngor i gyrraedd ei dargedau ailgylchu. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn ailgylchu tua 67 y cant o'r gwastraff y mae'n ei gasglu. Er mwyn cyrraedd targedau llywodraeth Cymru, mae angen i hynny gynyddu i 70 y cant erbyn 2024/25.
Bydd methu â chyrraedd y targed hwn yn golygu bod y cyngor yn atebol am ddirwyon. Ar y raddfa ailgylchu bresennol, byddai'r ddirwy o fis Ebrill 2025 dros £500,000 y flwyddyn.
Bydd pob gwasanaeth gwastraff arall yn aros fel y maen nhw. Mae hyn yn golygu y bydd ailgylchu a gwastraff bwyd yn parhau i gael eu casglu'n wythnosol, ac fe fydd bagiau hylendid yn cael eu casglu bob pythefnos.
Mae dadansoddiad o'r gwastraff a gasglwyd yng Nghasnewydd yn dangos bod modd ailgylchu bron i 40 y cant o'r hyn sy'n mynd i finiau sbwriel cartref ar ymyl y ffordd ar hyn o bryd.
Mae nifer o gynghorau eraill yng Nghymru a ledled y DU naill ai'n ystyried symud i trefniadau casglu biniau sbwriel bob tair neu bedair wythnos, neu maen nhw eisoes wedi gwneud hynny.
Mae cynghorau sydd eisoes wedi gwneud y newid wedi nodi cynnydd yn y cyfraddau ailgylchu o ganlyniad.
Bydd y cyngor yn sicrhau bod adnoddau a chymorth ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth gyda'r newidiadau. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael yn
www.newport.gov.uk/gwastraff