Newyddion

Lansio rhaglen Dysgu Oedolion yn y Gymuned newydd

Wedi ei bostio ar Thursday 20th July 2023

 

Mae amserlen newydd o gyrsiau addysg oedolion yng Nghasnewydd wedi'i lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. 

 

Wedi'i chyflwyno gan dîm dysgu cymunedol y cyngor, mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i bobl leol ennill sgiliau a chymwysterau mewn amrywiaeth o bynciau ar wahanol lefelau.

 

Mae'r cyrsiau'n cynnwys sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, TGAU mewn Saesneg a mathemateg, Sbaeneg ar gyfer gwyliau, Iaith Arwyddion Prydain, llythrennedd digidol a sgiliau byw'n annibynnol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

 

Hefyd, yn newydd ar gyfer 2023, bydd dau gwrs ychwanegol ar gael. Y cwrs cyntaf yw Diogelwch Bwyd ar gyfer Arlwyo a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddeall egwyddorion glendid a hylendid yn ogystal â chadw cynhyrchion bwyd yn ddiogel.  

 

Yr ail gwrs newydd yw Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. Mae hwn yn gwrs sy'n dysgu'r sgiliau sydd eu hangen i gynorthwyo gyda materion iechyd meddwl yn y gweithle, darparu cymorth iechyd meddwl sylfaenol neu fod yr ymatebwr cyntaf i rywun mewn angen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros y gymuned a lles: "Fel aelod o Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Casnewydd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i bob oedolyn dros 16 oed. Mae ganddyn nhw gyrsiau sy'n addas i bawb, p'un a ydych chi'n chwilio am gymwysterau, cyfleoedd cyflogaeth neu am gyflawni nodau personol."

 

Mae'r cyrsiau'n dechrau ym mis Medi 2023 a gallwch nawr gofrestru ar gyfer dosbarthiadau.

 

I gael rhagor o wybodaeth am gwrs neu i gofnodi eich diddordeb, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656.

Mae manylion a dyddiadau llawn yr holl gyrsiau ar gael yn newport.gov.uk/communitylearning

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.