Mae busnesau ym Mhilgwenlli yn rhoi addewid o'u cefnogaeth i gynllun gwrth-daflu sbwriel yn ystod diwrnod gweithredu Partners for Safer Pill
Wedi ei bostio ar Wednesday 18th January 2023
Mae cynllun newydd i helpu i frwydro yn erbyn sbwriel a gwastraff ym Mhilgwenlli wedi ennill cefnogaeth gan fusnesau lleol.
Mae'r cynllun yn gytundeb gwirfoddol rhwng y busnesau a'r cyngor, fydd yn cydweithio mewn partneriaeth i gadw'r ardal yn rhydd o sbwriel a malurion.
Fe wnaeth tua 40 o fusnesau addo eu cefnogaeth, gan addo rheoli eu gwastraff yn gyfrifol a chadw blaen eu siop yn rhydd o sbwriel.
Yn y cyfamser, addawodd y cyngor ei gefnogaeth gyda chadw'r ardal yn daclus, trwy lanhau a phatrolau rheolaidd ar y stryd, ynghyd ag addewid i ddelio'n brydlon ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ymwelwyd â'r busnesau fel rhan o ddiwrnod gweithredu aml-asiantaeth ddydd Gwener diwethaf (13 Ionawr), dan arweiniad prosiect Partners for Safer Pill.
Roedd swyddogion y cyngor wrth law i gynnig cyngor a chefnogaeth i fusnesau ynglŷn â rheoli gwastraff, yn ogystal â chynnal ymgyrch glanhau’r stryd wedi'i thargedu o'r ardal.
Roedd tîm plismona cymdogaeth Heddlu Gwent ar gyfer Pilgwenlli hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i drigolion a busnesau ar atal troseddu.
Roedd gweithgareddau eraill ar y diwrnod yn cynnwys trigolion eiddo Pobl a Chartrefi Dinas Casnewydd yn derbyn cyngor ar gymorth tenantiaeth; swyddogion diogelwch cymunedol y cyngor yn rhoi cymorth ymddygiad gwrthgymdeithasol; a sesiwn casglu sbwriel gymunedol gan Pride in Pill a Cadwch Gymru'n Daclus.
Roedd aelodau ward lleol Pilgwenlli hefyd allan i gefnogi'r digwyddiad a phartneriaid y prosiect.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rydym yn gwybod fod sbwriel a gwastraff yn flaenoriaeth i'n trigolion, a dyna pam fod mynd i'r afael ag ef yn flaenoriaeth i'r cyngor.
"Trwy weithio gyda'n gilydd, gall pob un ohonom wneud ein rhan i daclo taflu sbwriel a gwella'r amgylchedd yn ein hardaloedd lleol.
"Mae cynlluniau fel hyn yn ffordd dda o gydlynu ein hymdrechion, a dyna pam roeddwn i'n falch o weld cymaint o fusnesau yn cofrestru ar y pryd.
"Roedd hefyd yn wych gweld cymaint o'n partneriaid allan yn ymuno â'r diwrnod gweithredu, a bod ganddyn nhw gysylltiad da â thrigolion a busnesau fel ei gilydd."
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Carl Williams, Heddlu Gwent:
"Trwy weithio gyda'r Cyngor ar y cynllun gwrth-daflu sbwriel newydd, gallwn sicrhau ein bod yn helpu i wneud Pilgwenlli’n lle mwy diogel a thaclus i bawb.
"Bydd ein swyddogion yn cynnal patrolau amlwg iawn yn yr ardal i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i'r afael â throseddau ym Mhilgwenlli. Mae hyn yn cynnwys taflu sbwriel, er mwyn helpu'r cynllun hwn i redeg mor ddidrafferth â phosib."