Newyddion

Cyllideb Cyngor Dinas Casnewydd wedi'i osod ar gyfer 2023/24

Wedi ei bostio ar Tuesday 28th February 2023

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cytuno ar lefel y dreth gyngor ar gyfer y ddinas a chyfanswm y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 yn deillio o hynny.

Yn dilyn ymgynghoriad helaeth gyda'r cyhoedd a phartneriaid, bu'r Cabinet yn trafod adborth ar y cynigion arbedion drafft yn ei gyfarfod yn gynharach y mis hwn gan gyhoeddi £5m ychwanegol o fuddsoddiad mewn gwasanaethau sydd bwysicaf i'r cyhoedd.

Cafodd y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor ei leihau gan y Cabinet i 8.5 y cant yn hytrach na'r 9.5 y cant arfaethedig. Gyda'r mwyafrif o aelwydydd Casnewydd ym mandiau A i C - mae hyn yn golygu cynnydd o rhwng £1.39 a £1.85 yr wythnos. Cefnogwyd hyn gan y Cyngor llawn heddiw.

Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, disgwylir i Gasnewydd fod ag un o'r cyfraddau treth gyngor isaf yng Nghymru.

Ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, mae nifer o newidiadau a diweddariadau yn cynnwys setliad positif gan Lywodraeth Cymru, llai o bwysau ar wasanaethau, arbedion ychwanegol a chadarnhad o gyllid grant arall wedi golygu bod y Cabinet wedi gallu dyrannu £2.5m yn ychwanegol.

Penderfynwyd hefyd i addasu cronfeydd wrth gefn y Cyngor at ddibenion gwahanol, gan olygu buddsoddiad ychwanegol cyffredinol o £5m yn 2023/24.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Rydym yn falch iawn o allu buddsoddi yn rhai o'r meysydd oedd bwysicaf i’n preswylwyr. Bydd y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet heddiw yn golygu y gall gwasanaethau allweddol barhau, ni fydd rhaid gwneud rhai toriadau a bydd gwasanaethau eraill yn cael amser a chyfle ychwanegol i ystyried sut y gallwn eu newid a’u darparu’n fwy effeithlon yn y dyfodol."

Gan ystyried barn preswylwyr am ba wasanaethau sydd bwysicaf iddyn nhw, wedi'u cydbwyso â bwlch heriol rhwng yr arian sydd ar gael a chostau cynyddol darparu gwasanaethau, dyma rai o'r prif benderfyniadau y mae'r Cabinet wedi cytuno arnynt:

 

Buddsoddi mewn ysgolion

Yn y gyllideb ddrafft, roedd cyllid i ysgolion eisoes wedi cynyddu yn nhermau arian go iawn, ond roedd heriau'n dal i fodoli gan gynnwys cynyddu niferoedd disgyblion, pwysau yn gysylltiedig â chyflogau a chostau cynyddol - felly mae £2.8m ychwanegol wedi'i ddyrannu i helpu ymhellach, ac wedi cynyddu'r buddsoddiad cyffredinol i £9m.

Gwasanaethau i'n rhai mwyaf bregus

Mae dros chwarter cyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol - roeddech chi eisiau i ni flaenoriaethu gwasanaethau sy'n helpu ein preswylwyr mwyaf agored i niwed, felly rydym wedi buddsoddi bron £1m mewn gwasanaethau cymorth allweddol i oedolion a phlant.

Mae hyn yn cynnwys cynnal y ddarpariaeth seibiant byr yng nghartref seibiant a gofal preswyl Oaklands, a lleihau'r arbedion sydd eu hangen o fewn cyfleoedd dydd i oedolion, a elwir hefyd yn wasanaeth seibiant byr yn Spring Gardens.  Bydd arian ychwanegol hefyd yn caniatáu i wasanaethau ychwanegol barhau yn Spring Gardens  tra bod adolygiad pellach yn cael ei gynnal gyda'r nod o osod y gwasanaeth ar sail gryfach a gweithio'n fwy effeithlon yn y dyfodol.

Yn ogystal â hyn, bydd £150k o gronfeydd wrth gefn presennol yn cael eu defnyddio fel bod modd adolygu a meinhau newidiadau i'n gwasanaethau ar gyfer pobl ag anabledd dysgu dros y flwyddyn i ddod.

Gwnaed gwaith hefyd i ailfodelu'r gwasanaeth a ddarperir drwy Ganolfan Cwtch a phartneriaeth Barnardo's gan ddefnyddio cyllid grant diwygio radical. Bydd y staff presennol a'u holl brofiad a'u sgiliau yn rhan o'r gwaith ailfodelu hwn. Mae hyn yn golygu, i bob pwrpas, y bydd y cynnig arbedion yn cael ei ohirio am ddwy flynedd.

Mae cynigion eraill a ddilëwyd gan y Cabinet yn cynnwys codi ffioedd parcio mewn lleoliadau cefn gwlad (Glebelands, man gwylio Christchurch, Pwll Morgan a Lôn Betws) a thaliadau am finiau gwastraff gweddilliol newydd.

Drwy ail-gyfeirio cronfeydd wrth gefn, bydd y Cyngor hefyd yn darparu cymorth dros dro i'r darparwr gwasanaeth iechyd meddwl Growing Space am y ddwy flynedd nesaf.

Bydd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) hefyd yn derbyn cymorth dros dro gyda’r arbediad arfaethedig ar gyfraniad blynyddol y Cyngor yn cael ei ohirio’n rhannol.

Bydd hyn yn caniatáu i adolygiadau a newidiadau i wasanaethau i ddigwydd a fydd yn darparu gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd buddsoddiad un tro hefyd yng nghanol y ddinas i sicrhau cefnogaeth barhaus i fusnesau ac adferiad wedi'r pandemig. Bydd hyn yn cynnwys cymorth ardrethi busnes i fusnesau cymwys yng nghanol y ddinas yn 2023/24. 

Mae canlyniadau llawn yr ymgynghoriad ar y gyllideb, gwybodaeth ar ble mae arian y Cyngor yn dod ohono a sut mae arian yn cael ei wario ar gael yn www.newport.gov.uk/ cyllideb

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.