Newyddion

Mis Hanes LHDT+

Wedi ei bostio ar Wednesday 1st February 2023

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn faner Cynnyddyn y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig drwy gydol mis Chwefror. 

Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddathliad blynyddol mis o hyd o hanes pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, gan gynnwys hanes hawliau LHDT+ a hawliau sifil cysylltiedig.    

Mae'n cael ei ddathlu bob mis Chwefror yn y DU, i gyd-fynd â diddymu Cymal 28 yn 2003. 

Mae Casnewydd yn aelod gweithgar o'r bartneriaeth Cynghorau Balch, sy'n dwyn ynghyd sawl awdurdod lleol yn ne Cymru mewn ffordd weladwy ac unedig, i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb i gymunedau LHDT+. 

Diben Cynghorau Balch yw gwella'r cymorth sy'n cael ei gynnig i staff LHDT+ mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a sicrhau bod llywodraeth leol ledled Cymru yn arweinydd amlwg ym maes hawliau LHDT+, gan fynd ati i hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ yn ein cymunedau. 

Ymunodd Dan Earnshaw ac Emily Curry, cadeirydd ac is-gadeirydd rhwydwaith Pride y staff, ac Adam Smith o Pride in the Port ag arweinydd y Cyngor, Jane Mudd a phencampwr LHDTC+ y Cyngor, y Cynghorydd Laura Lacey i weld y faner yn cael ei chodi. 

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae eleni'n nodi 20 mlynedd ers diddymu Cymal 28 ac er bod hynny'n nodi trobwynt, mae dal gwaith i’w wneud i greu cymdeithas fwy cyfartal a chynhwysol i bawb. Mae Mis Hanes LHDT+ yn gyfle i ddathlu'r hyn sydd wedi ei wneud a chanolbwyntio ar ddyfodol sydd hyd yn oed yn well." 

Ychwanegodd y Cynghorydd Lacey:  “Fel cyngor, rydym yn gwerthfawrogi rhwydwaith Pride ein staff ac rydym am i'n holl staff deimlo'n ddiogel ac wedi’u parchu ac rydym hefyd yn gwerthfawrogi ein cymunedau Pride gan ein bod am i Gasnewydd fod yn ddinas gynhwysol a chroesawgar."

 

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.