Newyddion

Amlygu manteision maethu gydag awdurdod lleol

Wedi ei bostio ar Thursday 10th August 2023

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Casnewydd yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol. 

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant. 

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol. 

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw. 

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Casnewyss  – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol. 

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Marshall, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros wasanaethau cymdeithasol: "Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen a bydd yn newid gofal pobl ifanc yng Nghymru yn aruthrol. 

"Mae maethu gyda'ch awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision gan gynnwys rhwydwaith o gymorth a hyfforddiant. Yn bwysig, mae hefyd yn golygu y gall plant a phobl ifanc sy’n cael eu maethu aros yn agos at eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cymunedau. 

"Byddem wrth ein bodd yn clywed gan bobl leol sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol, ac sy'n gallu ein helpu i wneud i'r newid hwn ddigwydd. Cysylltwch â'n tîm cyfeillgar heddiw. 

"Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel, gan agor eu drysau a'u calonnau i ddarparu gofal a chymorth i blant.  Mae pob un ohonom yn yr awdurdod lleol yn gwerthfawrogi’n fawr eu hymroddiad a'u hymrwymiad." 

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Gofalwr maeth Jo. a symudodd o asiantaeth faethu annibynnol i awdurdod lleol yn gynharach eleni, meddai:  “Ar ôl troi'n ddeugain, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau drwy asiantaeth.

“I ddechrau, roedd llawer yn dod o'r tu allan i'n hardal, gan eu gadael wedi'u datgysylltu oddi wrth eu ffrindiau a'u hamgylchedd cyfarwydd.

“Nawr, rwy'n maethu gyda'n hawdurdod lleol. Mae'r plant yn aros yn lleol, gan gynnal cysylltiadau sy'n rhoi cysur a diogelwch. Mae hyn yn hwyluso ymweliadau, mynediad, ac amser teulu gwerthfawr.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.