Wal graffiti bwrpasol yn agor ym Mharc Glebelands
Wedi ei bostio ar Tuesday 29th August 2023
Mae gofod pwrpasol i artistiaid ei drawsnewid wedi ei agor yng Nghasnewydd.
Bydd y wal graffiti newydd ym Mharc Glebelands yn rhoi lle i artistiaid arddangos eu gwaith, tra'n dod â sblash o liw i'r ardal.
Nod dynodi gofod graffiti cyfreithiol yw annog arloesi a chreadigrwydd mewn amgylchedd diogel, tra'n lleihau lefelau graffiti mewn ardaloedd sydd heb eu hawdurdodi.
Mae'r waliau ar ddwy ochr y twnnel sy'n cysylltu rhannau gogleddol a deheuol y parc, sy'n rhedeg o dan yr M4, yn ffurfio'r gofod graffiti cyfreithlon.
Sefydlwyd y wal graffiti diolch i brosiect dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd a chynghorwyr ward yn Sant Silian, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA), sydd wedi caniatáu i'w wal gael ei defnyddio ar gyfer y prosiect.
Dwedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu neilltuo'r wal hon fel gofod graffiti cyfreithiol.
"Rydym wedi ymrwymo i wella amgylchedd ffisegol ein dinas, ac rydym hefyd yn cydnabod yr angen i roi ardal ddiogel i artistiaid stryd ifanc weithio ynddi. Rydym wir yn gobeithio y gall y wal ddod yn allfa greadigol werthfawr i'n cymuned leol.
"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a SWTRA am roi un o'u waliau i'w defnyddio, yn ogystal â chynghorwyr y ward Phil Hourihane a Paul Bright am eu cefnogaeth i ddod â'r prosiect hwn yn fyw."
Mae'r prosiect yn rhan o waith y cyngor i wella amgylchedd ffisegol y ddinas, ac mae'n dilyn comisiynu nifer o furluniau ar draws Casnewydd, gan gynnwys y rhai ar Gylchfan Harlequin.