Newyddion

Trechu tlodi gyda'n gilydd

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th April 2023

Mae Cyngor Dinas Casnewydd ac ysgolion yn cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant o gartrefi incwm isel. 

Yn ddiweddar lansiwyd strategaeth newydd i ddarparu dulliau cyffredinol pwrpasol, wedi'u targedu i fynd i'r afael â phob agwedd ar dlodi sy'n effeithio ar blant a'u teuluoedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Deborah Davies, aelod cabinet dros addysg a blynyddoedd cynnar y Cyngor: "Mae'r cyngor a'n holl ysgolion yn rhannu gweledigaeth gyffredin y dylai pawb yn y ddinas gael mynediad i addysg i gyflawni eu potensial. Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth, a byddwn yn ei wneud. 

"Rydym yn gwybod y gall tyfu mewn tlodi gael effaith negyddol ar les a chyfleoedd bywyd plant. 

"Rwy'n hynod falch bod pob ysgol yng Nghasnewydd yn cofleidio'r rhaglen ac yn cydnabod ei phwysigrwydd. Mae teuluoedd ar incwm isel ar draws y ddinas ac ni fydd pob un ohonyn nhw'n ymwybodol eu bod nhw mewn tlodi." 

"Yn ogystal â'r ysgolion, mae partneriaethau gyda thimau cyngor eraill, elusennau a sefydliadau allanol hefyd yn hanfodol gan fod rhaid cael agwedd gyfannol a chefnogaeth i'r teulu cyfan. 

"Drwy weithio gyda'n hysgolion, rydyn ni eisiau sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y gorau o addysg, cyflawni eu potensial, a theimlo'n ddiogel, yn hapus ac yn iach. Rydyn ni am dorri cylch tlodi i blant heddiw ac yfory." 

Nod y strategaeth yw cael gwared ar y rhwystrau sy'n gallu effeithio ar addysg plentyn ac mae ganddi gynnig eang sy'n amrywio o deithiau ysgol â chymhorthdal i'r Rhaglen Un Miliwn o Fentoriaid, system fentora unigryw yn y gymuned, mewn ysgolion uwchradd. Mae ymwybyddiaeth a rheolaeth ariannol hefyd yn rhan o'r cwricwlwm. 

Mae pob ysgol hefyd wedi derbyn cyflwyniad gan Plant yng Nghymru ynglŷn â dilyn dull gweithredu ysgol gyfan o wella lles plant o gefndiroedd incwm isel a difreintiedig.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.