Newyddion

Digwyddiad ar drywydd y Nadolig yng Nghasnewydd ar 19 Tachwedd

Wedi ei bostio ar Monday 10th October 2022

Bydd canol dinas Casnewydd yn cynnal digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig ysblennydd yn llawn hwyl i'r teulu cyfan ddydd Sadwrn 19 Tachwedd. 

Bydd y digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig rhwng 3pm a 5.15pm ac yn cynnwys cerddoriaeth fyw, reidiau ffair a gwesteion enwog gan ddod i ben gyda goleuadau Nadolig canol dinas Casnewydd yn cael eu cynnau ac arddangosfa tân gwyllt syfrdanol. 

Wedi’i drefnu gan Ardal Gwella Busnes (AGB) Newport Now mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Friars Walk a Radio Dinas Casnewydd, bydd y digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig yn adlewyrchu digwyddiadau hynod lwyddiannus cyn y pandemig yr AGB gyda'r prif lwyfan ar gyffordd Charles Street a Commercial Street. 

Denodd y digwyddiad y llynedd dros 8,000 o bobl ychwanegol i ganol y ddinas o gymharu â dydd Sadwrn arferol. 

Bydd perfformwyr cerddorol enwog ar y llwyfan yn ystod y dydd ynghyd â pherfformwyr lleol, a bydd gwestai enwog arbennig yn helpu maer y ddinas, y Cynghorydd Martyn Kellaway, i wthio'r botwm i oleuo canol y ddinas ar gyfer yr ŵyl. 

Bydd reidiau ffair ar hyd glan yr afon a Commercial Street, a bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda'r goleuadau Nadolig yn cael eu cynnau am 5pm ac yna arddangosfa tân gwyllt am 5.15pm. 

Dywedodd cadeirydd AGB Newport Now, Zep Bellavia: "Rydym mor falch o gyflwyno digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig arall ar gyfer busnesau a phobl Casnewydd. 

"Fel arfer, byddwn yn cynnig rhywbeth i'r teulu cyfan ac mae’r digwyddiad  Ar Drywydd y Nadolig yn nodi dechrau swyddogol cyfnod masnachu'r ŵyl ar gyfer canol y ddinas. Mae cefnogi eich busnesau lleol y Nadolig hwn yn bwysicach nag erioed. 

"Rydym yn siŵr y bydd teuluoedd o bob rhan o Gasnewydd a thu hwnt yn dod i ganol y ddinas unwaith eto am yr hyn sy'n addo bod yn ddigwyddiad gwych sy'n llawn syrpreisys." 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Mae’r digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig eleni yn addo bod yn ddechrau gwych i’r ŵyl. 

"Bydd hefyd yn hwb mawr i fusnesau lleol ac mae hynny'n hynod bwysig yn y cyfnod heriol hwn. Gobeithio y bydd pobl yn "siopa'n lleol" i gefnogi ein manwerthwyr, ein bwytai, ein bariau a’n cyfleusterau hamdden y Nadolig hwn. 

"Y llynedd, daeth miloedd o bobl ynghyd i'w wneud yn achlysur arbennig iawn ac rwy’n siŵr y bydd yr un peth yn digwydd eleni. Diolch o galon i Newport Now a phawb sy’n rhan o drefnu a chefnogi'r digwyddiad." 

Dywedodd Simon Pullen, Cyfarwyddwr Canolfan Friars Walk, "Mae’r digwyddiad Ar Drywydd y Nadolig wastad yn creu awyrgylch arbennig yng nghanol y ddinas, ac rydym yn falch o noddi'r arddangosfa tân gwyllt a fydd yn helpu i ddechrau’r ŵyl yng Nghasnewydd mewn steil! Eleni mae gennym oleuadau Nadolig newydd yn Friars Walk, gan gynnwys carw enfawr yn Sgwâr John Frost rydym yn edrych ymlaen at ei ddadorchuddio yn y digwyddiad. 

"Bydd Friars Walk hefyd yn cynnal profiad Siôn Corn arbennig eto eleni. Roedd ein 'Stiwdio Siôn Corn' mor boblogaidd y llynedd felly bydd yn ôl ym mis Rhagfyr i deuluoedd lleol gyfarfod 'yn rhithwir' â Siôn Corn sydd ym Mhegwn y Gogledd! Bydd yr holl elw'n cael ei roi i elusen leol, felly cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth yn fuan!"

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Radio Casnewydd, Ian Lamsdale: “Mae cefnogi ein cerddorion lleol yn bwysicach nag erioed. 

"Rydym yn ddiolchgar i Newport Now am ganiatáu i ni yn Radio Dinas Casnewydd arddangos talent sy’n datblygu a chynnal yr awr gyntaf o ddathliadau. Ewch i’r digwyddiad o'r dechrau i'n helpu i ddathlu." 

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad – gan gynnwys manylion am y gwestai enwog a pherfformwyr cerddorol eraill – yn cael eu datgelu dros yr wythnosau nesaf.

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.