Newyddion

Goleuo'n goch ar Ddiwrnod Aids y Byd

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th November 2022

Ddydd Iau, bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo'n goch i gofio am bawb a gollwyd i salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS - tua 38 miliwn o bobl ledled y byd – ac i ddangos ein bod yn benderfynol o roi terfyn ar achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030. 

Mae gofal HIV gwych ar gael yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd - mae PrEP (y cyffur y mae pobl sy’n profi’n negatif am HIV yn ei gymryd i aros yn negatif) ar gael yn rhad ac am ddim ar y GIG ac mae profion HIV i’w gwneud gartref ar gael am ddim bellach drwy gydol y flwyddyn o https://www.friskywales.org 

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu adborth i'r ymgynghoriad - gan gynnwys gan Gyngor Dinas Casnewydd - ar ei Chynllun Gweithredu HIV drafft.  Mae disgwyl i'r ddogfen derfynol gael ei chwblhau yn y flwyddyn newydd a bydd yn cynnwys ymrwymiadau allweddol ar gyfer cynghorau, byrddau iechyd a sefydliadau partner. 

Mae Casnewydd yn gartref i gyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Martyn Butler.  Derbyniodd ef, a'i gyd-sylfaenydd Rupert Whitaker, OBE eleni am eu hymdrechion. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Mae'r symbol bach ond pwysig hwn, sef goleuo tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn goch, yn atgoffa pobl Casnewydd na fyddwn yn anghofio'r rhai a gollwyd i HIV dros y blynyddoedd, ein bod yn sefyll gyda'r rhai sy'n galaru am anwyliaid a’n gadawodd yn rhy fuan o lawer, ac yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda HIV heddiw. 

"Rydym yn aros i weld Cynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru ac yn sefyll gyda'n gilydd yn ein penderfyniad i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030. Byddaf yn gwisgo fy rhuban coch gyda balchder - rwy'n gobeithio y bydd y ddinas yn gwneud hefyd." 

Dywedodd Martyn Butler, cyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins:  "Mae Diwrnod AIDS y Byd yn foment bwysig bob blwyddyn ac mae'n golygu llawer y bydd Canolfan Ddinesig Casnewydd yn cael ei goleuo'n goch i gofio am y trigolion o Gasnewydd a gollwyd neu yr effeithiwyd arnynt gan yr epidemig HIV dros y pedwar degawd diwethaf. 

"Byddaf yn meddwl am yr holl ffrindiau yr wyf wedi eu caru a'u colli, gan gynnwys Terry Higgins sef y person cyntaf a enwyd i farw o salwch sy'n gysylltiedig ag AIDS 40 mlynedd yn ôl. 

"Ond nid diwrnod o gofio neu hiraethu yn unig yw Diwrnod AIDS y Byd, mae hefyd yn ein hatgoffa o frwydr barhaus ac effaith ddinistriol stigma HIV, yn ogystal â chyfle i annog profion HIV a thynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael o fewn y gymuned leol." 

Wedi'i sefydlu yn 1988, Diwrnod AIDS y Byd oedd y diwrnod iechyd byd-eang cyntaf erioed.  Dysgwch fwy am Ymddiriedolaeth Terence Higgins https://www.tht.org.uk/

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.