Gadewch i ni eich diddanu ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach
Wedi ei bostio ar Monday 28th November 2022
Gall ymwelwyr â chanol dinas Casnewydd ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr edrych ymlaen at hwyl yr ŵyl wrth gefnogi busnesau lleol.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflogi diddanwyr stryd i gefnogi ymgyrch Dydd Sadwrn Busnesau Bach.
Mae'r ymgyrch flynyddol ledled y wlad yn tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i "siopa'n lleol".
Er ei fod yn rhoi'r sylw ar un diwrnod, nod yr ymgyrch yw cael effaith barhaol ar fusnesau bach.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi ein busnesau bach ac nid yw'r neges i "siopa'n lleol" erioed wedi bod yn bwysicach.
"Mae digwyddiadau mawr eleni, fel yr Ŵyl Fwyd ac Ar Drywydd y Nadolig, wedi denu miloedd o bobl ac rwy'n gobeithio y gwnaethon nhw ddarganfod bod llawer ar gael o hyd, yn enwedig gan ein masnachwyr annibynnol gwych.
"Rydym hefyd wedi cyflogi diddanwyr stryd i wneud Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn hynod arbennig a rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r perfformiadau ac yn gwario’u harian mewn busnesau lleol, gan gyflogi pobl leol."
Dawnsiwch i gerddoriaeth Nadoligaidd yr ‘Elvish Pressies’ o'r 1950au; dewch i weld ‘Lairy Fairy and the Magic Christmas Pudding’ a rhyfeddwch at hud a lledrith ‘Festive Foxley’.
Byddant yn crwydro canol y ddinas rhwng 10am a 4.15pm