Y ddinas yn nodi Sul y Cofio gyda gorymdaith flynyddol
Wedi ei bostio ar Monday 7th November 2022
Bydd Parêd a Gwasanaeth blynyddol Sul y Cofio ar ddydd Sul 13 Tachwedd yng nghanol dinas Casnewydd.
Band Stedfast Casnewydd fydd yn arwain yr orymdaith a fydd yn gadael y Stryd Fawr am 10:35am gan wneud ei ffordd i'r gofadail ym Mhlas Clarence. Bydd Côr Meibion Dinas Casnewydd hefyd yn bresennol ger y gofadail ynghyd â Band Pres Bwrdeistref Casnewydd.
Bydd y gwasanaeth, a arweinir gan Esgob Mynwy, y Tra Pharchedig Cherry Vann, yn cael ei gynnal yng Nghofadail Casnewydd am 10.58am, gyda’r gynau’n tanio am 11am i nodi dechrau’r ddwy funud o ddistawrwydd.
Cynghorir preswylwyr y bydd ffyrdd ar gau o 7am tan 1pm. Ymhlith y ffyrdd a fydd ar gau bydd: Upper Dock Street (o Skinner Street i gylchfan yr Old Green), cylchfan Old Green (gan gynnwys y ffyrdd ymuno/ymadael), Old Town Bridge, Clarence Place, Caerleon Road (o Clarence Place i Church Road), Chepstow Road (o Clarence Place i Cedar Road), Corporation Road (o Clarence Place i St Vincent Road) ac East Usk Road (o Clarence Place i Tregare Street).
Bydd gwasanaeth Cofio’r Llynges Fasnachol yn Mariners Green ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.