Teyrnged i gyn-Faer
Wedi ei bostio ar Wednesday 16th March 2022
Margaret Cornelious
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Roeddwn i’n drist clywed am farwolaeth cyn-Faer Casnewydd Margaret Cornelious. Roedd hi'n gydweithiwr uchel ei pharch ar draws y meinciau.
"Bu'n cynrychioli ward Graig am dros 30 mlynedd gydag ymroddiad ac ymrwymiad a bu'n ddirprwy arweinydd grŵp y Ceidwadwyr ar gyngor y ddinas am nifer o flynyddoedd. Ymddiswyddodd o gyngor y ddinas y llynedd oherwydd salwch ac rwy’n gwybod bod cydweithwyr o bob plaid yn gweld ei heisiau.
"Roedd Margaret hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Graig ac roedd yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Pentrepoeth ac Ysgol Basaleg.
"Daeth yn Faer yn 2011 ac roedd hi'n 'ddinesydd cyntaf' rhagorol yn ystod ei blwyddyn yn y swydd, gan godi miloedd o bunnoedd i ddwy elusen a oedd yn bwysig iddi - Leukaemia and Lymphoma Research a Growing Space.
"Mae fy meddyliau gyda'i theulu a'i ffrindiau."