Newyddion

Cefnogi gofalwyr ifanc yng Nghasnewydd

Wedi ei bostio ar Monday 14th March 2022

Mae'r pandemig wedi dod â llawer o heriau i filiynau o ofalwyr di-dâl o bob oed ac mae timau'r cyngor wedi sicrhau bod cymorth ar gael a bod gofalwyr yn gwybod ble i droi am gymorth.   Mae hyn yn cynnwys cefnogi gofalwyr ifanc sydd wedi gorfod jyglo eu cyfrifoldebau gofalu gyda'u gwaith ysgol a'u bywyd cymdeithasol.  

Gofalwr ifanc yw unrhyw un rhwng 8 a 25 oed sy'n helpu i ofalu am aelod o'r teulu sydd â salwch corfforol neu anabledd, neu sy'n cael trafferth gydag iechyd meddwl gwael neu gamddefnyddio sylweddau.  Yn aml nid oes llawer o sylw ar waith llawer o ofalwyr ifanc wrth gefnogi perthnasau, er gwaethaf yr effaith y gall ei chael ar eu haddysg, eu hiechyd meddwl a'u bywyd cymdeithasol. 

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Casnewydd, a ddarperir gan Barnardo's, yn cynnig cymorth un i un, yn ogystal â grwpiau a gweithgareddau lle gall gofalwyr ifanc gael seibiant, cwrdd â gofalwyr ifanc eraill a chael ychydig o hwyl.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cockeram, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol:  "Ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc eleni, sy'n cael ei gynnal ar 16 Mawrth, bydd lansiad Cynnig Gofalwyr Ifanc diweddaraf Casnewydd sydd wedi'i gysoni â'r cynnig ar gyfer oedolion di-dâl sy'n ofalwyr yng Nghasnewydd.

Gyda'i gilydd, bydd y cynigion hyn yn nodi'r gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl o bob oed ledled y ddinas.  Bydd hyn yn cynnwys cynnig asesiad gofalwyr, gwybodaeth a chyngor, grantiau i ofalwyr, cymorth cymdeithasol, lles a chyfleoedd ar gyfer seibiannau i ofalwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl, ewch i www.newport.gov.uk/Gofalwyr  a www.barnardos.org.uk/what-we-do/helping-families/young-carers

More Information