Y Cyngor wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith i helpu pobl i fynd ar-lein
Wedi ei bostio ar Wednesday 30th March 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol, a ddyfarnwyd gan Cymunedau Digidol Cymru.
Mae'r Siarter Cynhwysiant Digidol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru sy'n hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol ac yn helpu pobl i fynd ar-lein.
Mae'n cynnwys chwe addewid ac mae'n ffordd i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i fwynhau manteision bod ar-lein – yn enwedig pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ddi-waith, tenantiaid tai cymdeithasol, teuluoedd mewn tlodi a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Cyflwynwyd cynllun gweithredu digidol gan y cyngor yn gynharach eleni i'w asesu, a gafodd ei ganmol, ar ôl ei adolygu, am lefel yr uchelgais a'r ymrwymiad i gynhwysiant digidol a'r amrywiaeth o waith a wnaed hyd yma ac a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol.
Y Cyngor yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i Siarter Cynhwysiant Digidol ddiwygiedig Cymunedau Digidol Cymru ac wedi mynd ymlaen i ennill Achrediad y Siarter.
Amcangyfrifir bod lefel yr allgáu digidol yng Nghymru yn uwch nag yn y DU, gyda chymaint â 7 y cant o'r boblogaeth, neu 180,000 o bobl, heb ddefnyddio'r rhyngrwyd.
Bydd y cyngor nawr yn parhau i weithio gyda Chyngor Addysgu Cymru i ddatblygu'r uchelgeisiau a amlinellir yn ei gynllun gweithredu.
Mae'r achrediad yn gweithredu tan fis Ionawr 2024.