Byddwch yn ddiogel yn y Tywydd Poeth
Wedi ei bostio ar Wednesday 13th July 2022
Mae Casnewydd wedi profi tywydd cynnes yr wythnos hon a disgwylir iddo barhau gyda thymheredd cynyddol dros y penwythnos ac i mewn i ddechrau'r wythnos nesaf.
Mae rhybudd tywydd wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.
Mae ganddynt hefyd amrywiaeth o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel, yn oer ac yn iach gartref neu yn yr awyr agored.
Yn y tywydd poeth hwn, gofalwch amdanoch chi eich hun ac eraill. Gall y rhan fwyaf ohonom fwynhau'r tywydd poeth yn ddiogel, ond cadwch lygad am y rhai sy'n fwy agored i niwed yn ystod y tywydd poeth.
Rydym eisoes yn gweld pobl yn mynychu Ysbyty Athrofaol Y Faenor sy'n wael iawn oherwydd effeithiau'r tywydd poeth.
Y prif risgiau sy'n gysylltiedig â thywydd poeth yw:
- peidio ag yfed digon o ddŵr (dadhydradu)
- gorboethi, sy'n gallu gwaethygu symptomau i bobl sydd eisoes yn cael problemau gyda'u calon neu yn anadlu
- gorludded gwres a thrawiad gwres
- llosg haul
Gall tywydd poeth effeithio ar unrhyw un, ond y bobl fwyaf agored i niwed yw pobl hŷn (yn enwedig y rhai dros 75 oed) a phlant ifanc. Meddyliwch am:
- y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu mewn cartref gofal
- pobl sydd â salwch difrifol neu hirdymor – gan gynnwys afiechyd y galon neu'r ysgyfaint, diabetes, clefyd yr arennau, clefyd Parkinson neu rai cyflyrau iechyd meddwl
- y rheini a allai ei chael hi'n anodd cadw'n oer – babanod a phlant ifanc iawn, y rheini sy’n gaeth i’w gwelïau, y rheini sydd â dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, neu’r rheini sydd â chlefyd Alzheimer
- pobl sy'n treulio llawer o amser y tu allan neu mewn mannau poeth – y rheini sy'n byw mewn fflat ar y llawr uchaf, y digartref neu'r rhai y mae eu swyddi y tu allan
Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau sy'n gysylltiedig â gwres, ewch i wefan GIG 111 i wirio'ch symptomau neu ffoniwch 111 i gael cyngor.
Gwiriwch hefyd am ddiweddariadau gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.