Ymestyn cynllun bws am ddim
Wedi ei bostio ar Wednesday 1st December 2021
Mae cynllun i gynnig teithio am ddim i deithwyr ar deithiau bws yng Nghasnewydd yn y cyfnod cyn y Nadolig yn cael ei ymestyn.
Ac mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod y gwasanaeth fflecsi yn y ddinas, y mae'n ei gomisiynu a'i ariannu, yn darparu'r un cynnig.
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn tanysgrifennu cost teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau'r ddinas ar wasanaethau rheolaidd a weithredir gan Newport Bus, Stagecoach a Bws Caerdydd tan 24 Rhagfyr.
Cyhoeddodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y cynllun wrth i oleuadau'r Nadolig gael eu cynnau dros y penwythnos.
"Mae ein menter wedi cael adborth hynod gadarnhaol. Rydym am annog trigolion i aros a siopa'n lleol wrth deithio mewn ffordd gynaliadwy.
"I ddechrau, dim ond ar gyfer dydd Llun i ddydd Sadwrn oedd y cynnig i fod ond rydym bellach wedi ychwanegu dydd Sul i helpu pobl hyd yn oed yn fwy wrth i'r Nadolig nesáu.
"Rwy'n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru yn dilyn ein harweiniad ar ôl cadarnhau y bydd teithiau ar wasanaethau fflecsi yn y ddinas hefyd am ddim yn ystod yr un cyfnod."