Newyddion

Y Cyngor yn sicrhau dyfodol y Bont Gludo gyda grant treftadaeth y Loteri Genedlaethol gwerth £8.75m

Wedi ei bostio ar Friday 22nd January 2021

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi llwyddo i gael grant gwerth £8.75m i helpu i droi Pont Gludo Casnewydd yn atyniad pwysig i dwristiaid.

Bydd y cais llwyddiannus gan y Cyngor i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (GDLG) yn ein galluogi i atgyweirio a chadw'r strwythur ac i agor canolfan ymwelwyr newydd ar y safle. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi dyrannu £1m o'i gyllideb gyfalaf i'r prosiect, ac mae'n ystyried nifer o lwybrau eraill gyda'r nod o sicrhau arian pellach.

Bydd y ganolfan newydd, y bydd llwybr cerdded rhyngddi a’r bont, yn dod â hanes y bont yn fyw drwy arddangos straeon personol y rhai a gynlluniodd, a adeiladodd ac a ddefnyddiai’r bont.

Bydd y cyfleusterau yn y ganolfan yn cynnwys caffi, toiledau a chyfleusterau newid, siop, oriel arddangos a gofod cymunedol.

Bydd mwy o leoedd parcio hefyd ar gyfer ymwelwyr yn ogystal â rhaglen weithgareddau gyffrous gan gynnwys perfformiadau theatr, dosbarthiadau celf a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar.

Bydd gwaith adnewyddu’r bont yn cynnwys gwaith ar y gondola, a fydd yn arwain at adfer nifer o'i nodweddion pensaernïol, yn ogystal â gwelliannau i'r ffordd sy’n agosáu at ochr ddwyreiniol y bont.

Caiff y prif drawst a nifer o geblau eu hadnewyddu hefyd. 

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor, "Mae'r Bont Gludo yn eicon yng Nghasnewydd, ac yn rhan sylweddol o stori gorffennol diwydiannol Cymru, un y mae angen i ni ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol fel y gallwn adrodd straeon yr hanes a rannwn. Rwyf wrth fy modd felly ein bod wedi gallu cael yr arian hwn gan GDLG a fydd yn ein galluogi i wneud yr union beth hwnnw.

"Mae’r gwaith o adnewyddu’r bont hefyd yn bwysig o safbwynt adfywio. Gallai gwaith datblygu’r ganolfan ymwelwyr newydd greu cyfleoedd swyddi a gwirfoddoli, a gwella enw da'r ddinas fel cyrchfan i ymwelwyr, a bydd y ddau beth yma’n dod â manteision economaidd ehangach i Gasnewydd."

Dywedodd Andrew White, cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

"Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Pont Gludo Casnewydd – un o dirnodau hanesyddol pwysicaf Cymru - wedi cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Bydd y buddsoddiad hwn, y trydydd mwyaf a wnaethom erioed yng Nghymru, yn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd, rhoi hwb i dwristiaeth a chreu ymdeimlad o falchder yn nhreftadaeth unigryw Casnewydd.

"Rydym yn falch o'r buddsoddiad rydym wedi'i wneud yng Nghymru – mwy na £410 miliwn dros y 26 mlynedd diwethaf. Ar ôl blwyddyn o roi cymorth brys i sefydliadau treftadaeth Cymru y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt, byddwn yn ailagor ceisiadau am grantiau prosiect y Loteri Genedlaethol cyn bo hir ac rydym yn edrych ymlaen at ariannu llawer mwy o atyniadau treftadaeth pwysicach ledled Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros ddiwylliant a hamdden: "Rydym wedi gweithio'n eithriadol o galed i gyrraedd y pwynt hwn ac rydym yn diolch i bob un sydd wedi ein cefnogi a'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r prosiect pwysig hwn.

"Alla’ i ddim aros i'r gwaith ddechrau ac i weld pont gludo wedi'i hailfywiogi yn llenwi nenlinell ein dinas."

Bydd y bont yn parhau ar gau i ymwelwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, a disgwylir iddi ailagor ym mis Mawrth 2023. Bydd rhaglen ymgysylltu yn cynnig cyfle i breswylwyr fod yn rhan o'r prosiect ailddatblygu tra bydd y bont ar gau, a gallwch ddilyn y bont ar Facebook a Twitter i gael diweddariadau rheolaidd yn ystod y prosiect.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.