Newyddion

Atal mesurau arbennig yn Ysgol Sain Silian

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd December 2021

Yn dilyn ymweliad arolygu monitro diweddar, penderfynwyd atal mesurau arbennig yn Ysgol Sain Silian.

Mae Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol ac nad oes angen y lefel hon o ymyrraeth mwyach.

Dwedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Dyma newyddion ardderchog i'r ysgol a'i myfyrwyr. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud mewn partneriaeth â'r ysgol – da iawn i’r staff, y llywodraethwyr, y disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol am eu cefnogaeth barhaus ac am wneud cynnydd mor gadarnhaol."

Rhoddodd arolygwyr Estyn fesurau arbennig ar waith yn yr ysgol ar ôl barnu bod y safonau’n is na’r disgwyl.

Mae'r ysgol bellach wedi dangos cynnydd o ran argymhellion Estyn gan gynnwys:

- Gwelliannau i ansawdd a chysondeb addysgu, marcio ac asesu; dealltwriaeth glir o sut y dylai dysgu llwyddiannus edrych; yr athrawon yn datblygu perthynas waith gynhyrchiol a chadarnhaol gyda’r disgyblion; a defnyddio dulliau addysgu amrywiol i wneud y mwyaf o ddysgu a chynnydd disgyblion yn ogystal â’u datblygiad o ran medrau llythrennedd.

- Mae'r pennaeth wedi sefydlu gweledigaeth glir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar egwyddorion cysondeb, disgwyliadau uchel a phroffesiynoldeb ac mae'r staff yn deall y disgwyliadau hyn.

- Drwy gydol pandemig Covid-19, mae'r ysgol wedi bod yn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi lles ei disgyblion a'u helpu i ymgartrefu yn yr ysgol eto ar ôl y cyfnodau cloi. Mae'r ysgol wedi parhau â'i gwaith i wella cyflawniad disgyblion ac i ddatblygu eu medrau, eu hannibyniaeth a'u gwydnwch. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi cefnogi gwelliannau addas yn safon gwaith y disgyblion.

Ychwanegodd y Cynghorydd Deb Davies, yr aelod cabinet dros addysg a sgiliau a chadeirydd llywodraethwyr yr ysgol: "Rydyn ni’n hynod falch y gallai Estyn weld y gwelliannau a wnaed o fewn yr ysgol, ond rydyn ni hefyd yn cydnabod nad dyma ddiwedd y stori.

"Mae Estyn yn hyderus bod gan Sain Silian y gallu i barhau i wella ac y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi'r ysgol wrth iddi weithredu ei chynllun datblygu ysgol. Dyma garreg filltir enfawr i'r ysgol, ac rydyn ni’n benderfynol y bydd yr ysgogiad a'r datblygu cadarnhaol yn parhau."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.